Cheryl James (llun: PA)
Mae cwest i farwolaeth y milwr Cheryl James o Langollen wedi clywed ei bod hi wedi cael gorchymyn gan uwch swyddog i gael rhyw â milwr arall ym marics Deepcut y noson cyn iddi farw.
Cafwyd hyd i gorff y milwr 18 oed yn ei barics ym mis Tachwedd 1995, ac roedd hi wedi’i chlwyfo gan fwled. Roedd hi’n un o bedwar o filwyr fu farw yn Deepcut dros gyfnod o saith mlynedd.
Dywedodd y milwr Mark Beards wrth lys y crwner yn Woking ei fod wedi “cario euogrwydd” marwolaeth Cheryl James gydag e am 20 mlynedd.
Yn ôl Mark Beards roedd Cheryl James wedi dweud wrtho ei bod hi wedi derbyn gorchymyn gan y Sarsiant Andrew Gavaghan i fynd i mewn i ystafell gyda’r Preifat Ian Atkinson i gael rhyw.
“Rhaid i fi wneud,” meddai hi wrtho ar y pryd.
Heb ddefnyddio’r gair
Dywedodd Mark Beards ei fod e wedi dweud wrthi nad oedd rhaid iddi ufuddhau’r gorchymyn.
Ond fe gyfaddefodd nad oedd Cheryl James wedi defnyddio’r gair ‘rhyw’ yn ystod eu sgwrs, dim ond ei fod e’n deall mai dyna yr oedd hi’n ei olygu.
Dywedodd Mark Beards ei fod e wedi mynd at Ian Atkinson i’w holi am y mater, a’i fod wedi ffraeo ag e’r bore canlynol.
“Fe ddywedais i wrtho ei fod fy mod i’n ffieiddio ato,” meddai Mark Beards.
Ddim am ddweud
Ond dywedodd Mark Beards nad oedd e wedi mynd at Heddlu Swydd Surrey gan ei fod o’r farn fod Andrew Gavaghan yn gweithio iddyn nhw fel swyddog cyswllt.
“Doedd dim peryg y byddwn i’n dweud wrth Heddlu Swydd Surrey ei bod hi wedi cael gorchymyn gan y Sarsiant Gavaghan, gan ei fod e’n swyddog cyswllt Heddlu Swydd Surrey,” meddai.
“Do’n i ddim am iddo gael clywed am y peth.”
Mae’r cwest yn parhau.