Gareth Wyn Jones yn holi pam nad yw'r cyhoedd yn ymateb yr un mor chwyrn i ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid
Mae ffermwr lleol wedi dweud wrth golwg360 fod Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud y peth cywir wrth “roi ci allan o’i boen” ar yr A55 fore Llun.
Mae ymateb chwyrn wedi bod i benderfyniad yr heddlu i yrru’n syth at y ci gyda’r bwriad o’i ladd pan nad oedden nhw wedi methu â’i reoli, wedi iddo redeg i ganol y ffordd rhwng Llanfairfechan a Chonwy.
Roedd nifer o gerbydau wedi gorfod gyrru o’i gwmpas ar gyflymdra uchel er mwyn osgoi’r anifail, ac fe gafodd un plismon ei frathu wrth geisio dal y ci ar droed, cyn i gar yr heddlu yrru at yr anifail ar gyflymdra digonol i’w ladd ar unwaith.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu mai’r “unig opsiwn” oedd difa’r ci, ac nad oedd modd ei ddifa mewn unrhyw fodd arall oherwydd diogelwch y cyhoedd.
Ac mae’r amaethwr Gareth Wyn Jones wedi holi pam nad yw’r un ymateb beirniadol yn cael ei weld pan fo cŵn yn poeni a lladd anifeiliaid eraill fel defaid.
Penderfyniad cywir
Dywedodd Gareth Wyn Jones wrth golwg360 fod rhaid i’r heddlu ganolbwyntio ar sicrhau diogelwch y cyhoedd ar ffordd sydd yn brysur ddydd a nos
“Cadw pobol yn saff ydi eu gwaith nhw, a dwi hefo nhw,” meddai’r ffermwr sydd yn byw gerllaw yn Llanfairfechan.
“Mae pobol yn deud ‘pam na ddaru nhw saethu’r ci?’ Wel, rhaid iddyn nhw feddwl amdan hyn. Maen nhw wedi rhoi o allan o’i boen yn reit sydyn.”
Beth am y defaid?
Yn ôl yr amaethwr lleol mae gormod o gyhoeddusrwydd wedi cael ei roi i’r sefyllfa ac mae yna berygl y bydd yr heddlu’n cael eu beirniadu’n annheg am eu gweithredoedd.
“Dw i’n meddwl bod be mae pobol wedi gwneud o hyn yn wirion. Mae’r heddlu wedi cymryd y penderfyniad o gael gwared y ci ‘ma mewn ffordd sy ddim yn mynd i wneud difrod i geir na phobol,” meddai.
“Does dim sôn am y difrod mae’r cŵn ‘ma sy’n rhedeg o gwmpas yn y nos yn gwneud i ddefaid. Mae miloedd o ddefaid yn cael eu hambygio’n ofnadwy a chael eu lladd bob blwyddyn.
“I weld cymaint o publicity i hyn, mae o’n fy nychryn i dipyn bach. Un ci ydi o. Diolch i Dduw fod neb wedi cael ei ladd.”
Bai ar y perchennog
Dywedodd Gareth Wyn Jones y dylai ymchwiliad yr heddlu ganolbwyntio ar ddod o hyd i berchennog y ci nawr.
“Mae’n bechod beth sy’ wedi digwydd i’r ci. Ond dw i’n meddwl fod o’n fwy o fai ar y perchennog,” meddai.
“Pan ‘dan ni’n cael y ffeithiau i gyd ac yn gwybod yn iawn beth sy’ wedi digwydd, dw i ddim yn meddwl ddylai hwn fod yn witch-hunt [yn erbyn yr heddlu].
“Tydan ni ddim yn gwybod pwy bia’r ci ‘ma a dylai bod bob ci fod wedi’i tsipio, a gawn ni weld be mae’r heddlu’n ei ddweud.
“Mae’n bwysig i ni beidio jympio’r gwn a jyst disgwyl i gael y ffeithiau iawn. Ond dw i yn meddwl bod yr heddlu wedi gwneud y peth iawn.”
Ydych chi’n cytuno â Gareth Wyn Jones a Heddlu’r Gogledd? Pleidleisiwch yn ein pôl ar Twitter.