Yr Arlywydd Bashar Assad
Dim ond os bydd llywodraeth Syria yn newid ei hagwedd y bydd y cadoediad yn llwyddo, yn ôl Downing Street.

Daw’r datganiad yn dilyn trafodaethau rhwng Prif Weinidog Prydain David Cameron, Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, Arlywydd Ffrainc Francois Hollande a Changhellor yr Almaen Angela Merkel.

Fe fydd y cadoediad newydd yn dod i rym ddydd Sadwrn, ond fe fydd ymdrechion milwrol yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS), al Qaida yn Syria a grwpiau brawychol eraill yn parhau.

Yn ôl arweinwyr y Gorllewin, fe allai’r cadoediad fod yn “gam pwysig tuag at heddwch”, ond maen nhw’n galw am derfyn ar deyrnasiad Bashar Assad fel arlywydd.

‘Newid ymddygiad’

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Downing Street: “Gwnaethon nhw nodi mai trwy newid ymddygiad cyfundrefn Syria a’u cefnogwyr y byddai’r cytundeb yn llwyddo, gyda Rwsia yn benodol yn rhoi terfyn ar eu hymosodiadau ar drigolion a gwrthryfelwyr cymedrol yn Syria.”

Ychwanegodd y llefarydd fod cynnig cymorth dyngarol hefyd yn allweddol i’r broses.

Fe gytunodd yr arweinwyr eu bod yn ymrwymo i orchwyl Nato o gefnogi ffoaduriaid, a’i bod yn hollbwysig bod Gwlad Groeg a Thwrci’n cydweithio â’r gymuned ryngwladol ar y mater.