Dros y naw mis diwethaf ers ymosodiad gwreiddiol Hamas ar Israel a’r lladdfa diddiwedd yn Gaza ddilynodd hynny, mae arweinwyr y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr yn yr Unol Daleithiau, a’r Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur yma yng ngwledydd Prydain, wedi bod yn canu fwy neu lai o’r un llyfr emynau, gyda bach iawn o wahaniaeth yn eu naratif swyddogol.
Mae’r naratif hwnnw yn cynnwys dwy brif neges. Yn y lle cyntaf, bod hawl diymwad gan Israel i’w hamddiffyn ei hun trwy ymosod ar Gaza, ac yn wir fod unrhyw un sy’n gwrthwynebu’r hawl hwnnw yn cefnogi terfysgaeth Hamas a hyd yn oed yn amlygu syniadau gwrth-Semitaidd. Ail ran y naratif ydy mai damweiniau neu drasiedïau anffodus ydy’r marwolaethau cynyddol sy’n digwydd yn Gaza; sgil effeithiau anochel ond anfwriadol yr ymgais cyfiawn ond cymhleth i dargedu ymladdwyr Hamas. Weithiau, mae rhai unigolion yn mynd dros ben llestri, meddir, ond eithriadau ydy’r achosion hynny, nid arwyddion o gamweithredu systemaidd.
Mae’r naratif swyddogol hwn yn seiliedig ar gelwydd noeth. Oherwydd nid damweiniau neu drasiedïau anffodus, anfwriadol sydd y tu ôl i farwolaethau’r tua dau gan mil o Balestiniaid cyffredin sydd yn debygol o fod wedi marw yn Gaza erbyn hyn. (Er mai tua 40,000 sydd wedi’u cofnodi fel marwolaethau uniongyrchol oherwydd y bomio, mae mwyafrif y marwolaethau yn cynnwys unigolion sydd wedi’u claddu o dan y rwbel neu wedi marw o ddiffyg maeth neu oherwydd heintiau). Mae’r marwolaethau hyn yn rhan o strategaeth filwrol gwbl fwriadol gan yr IDF ac arweinwyr gwleidyddol Israel. Sut ‘dyn ni’n gwybod hynny? Yn syml iawn, am eu bod nhw wedi datgan hynny’n gyhoeddus droeon.
Craidd y gweithredu milwrol yn Gaza ar hyn o bryd ydy’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘Ddysgeidiaeth neu Strategaeth Dahiya’, strategaeth gafodd ei ffurfioli ’nôl yn 2006 pan benderfynodd Israel, yn groes i Gonfensiwn Geneva a chyfraith ryngwladol, dargedu cymdogaeth gyfan yn Ne Libanus o’r enw Dahiya, dinistrio’r lle yn llwyr a lladd dros 1,000 o bobol ddiniwed. A hynny oherwydd bod Hezbollah wedi ymosod ar gonfoi milwrol a herwgipio dau filwr Israelaidd. Disgrifiodd Israel y strategaeth yn gwbl agored fel ymgais ymwybodol i gosbi poblogaeth sifil yr ardal am weithredoedd Hezbollah trwy weithredu milwrol anghymesur, anferth, difaol. Byth ers hynny, mae Israel, yn ei hymwneud â’r Palestiniaid, wedi glynu at y strategaeth anghyfreithlon hon o dargedu poblogaethau sifil yn fwriadol, a’u gorfodi nhw i fyw dan stad o warchae parhaol.
Nid mater o lygad am lygad, dant am ddant ydy Dysgeidiaeth Dahiya ond 200 llygad am lygad, 200 dant am ddant. Y bwriad ydy achosi dioddefaint anferth ymysg y boblogaeth sifil gan nad ydy Israel yn gwahaniaethu rhwng ymladdwyr milwrol a Phalestiniaid cyffredin. I’r IDF a Llywodraeth Israel, mae pob Palestiniad yn derfysgwr potensial ac felly yn darged cyfreithlon.
Dw i’n ofni bod y math o resymeg sy’n sail i Ddysgeidiaeth Dahiya, y 200 llygad am lygad, 200 dant am ddant, wedi gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ehangach Israel erbyn hyn. Yn ddiweddar, cyfeiriodd Moshe Feiglin, cyn-aelod asgell dde o’r Knesset, at ddatganiad gan Hitler (o bawb!) wrth alw am weithredu eithafol yn erbyn Palesteiniaid Gaza.
“As Hitler said, I can’t live if one Jew is left. We can’t live in this land if one Islamo-Nazi remains in Gaza.”
Mae aelodau o gabinet rhyfel Netanyahu, gan gynnwys Netanyahu ei hun, wedi gwneud galwadau sy’n galw am weithredu polisi o ladd torfol neu hil-laddiad yn erbyn Palestiniaid. Mae’r galwadau hyn wedi’u casglu ynghyd mewn bâs data sylweddol ar wefan Law For Palestine ac roedden nhw’n ganolog i’r achos gyflwynodd De Affrica yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn erbyn Israel, lle mae’n cyhuddo’r wlad o gyflawni hil-laddiad bwriadol (mae’r gair ‘bwriadol’ yn bwysig oherwydd, er mwyn i achos o hil-laddiad fod yn ddilys yn gyfreithiol, mae’n rhaid medru profi mai bwriad ymwybodol sydd y tu ôl i’r marwolaethau torfol, nid blerwch neu aneffeithiolrwydd ar ran y grŵp neu’r wlad sy’n achosi’r marwolaethau).
Yn anffodus, nid dim ond yr asgell dde eithafol yn Israel sydd wedi galw am weithredu polisi o ladd torfol. Yn ddiweddar, mewn erthygl yn y papur dyddiol asgell chwith Hareetz, galwodd un o ddeallusion amlwg y wlad, yr hanesydd Benny Morris, am ollwng bom niwclear ar Iran cyn i’r wlad honno fedru datblygu’r gallu i adeiladu ei bom ei hun. Efallai y byddai rhai myfyrwyr gwirion mewn prifysgolion ar draws y byd yn protestio yn erbyn y weithred, meddai, ond byddai Israel yn medru ymdopi’n iawn gyda’r feirniadaeth honno.
Mae bodolaeth ‘Dysgeidiaeth Dahiya’ yn gwneud y sefyllfa bresennol ar y ffin â Libanus yn un beryglus. Er bod nifer o wledydd yn ceisio dylanwadu ar Israel i beidio â gorymateb i ymosodiadau diweddar gan Hezbollah (gan gynnwys achos o ladd plant a phobol ifainc ar gae pêl-droed – digwyddiad mae Hezbollah yn gwadu cyfrifoldeb amdano), mae hynny’n mynd yn groes i anian filwrol Israel am ddialedd diderfyn. Yn ogystal â hynny, mae Netanyahu yn hynod o amhoblogaidd yn Israel ei hun, gyda thros 70% o’r boblogaeth yn dymuno iddo ollwng yr awenau a chynnal etholiad newydd. Er mwyn ceisio cadw mewn grym (ac osgoi mynd i’r carchar am lygredd), y perygl ydy y bydd o, gyda chefnogaeth y pleidiau asgell dde eithafol sy’n ei gynnal, yn penderfynu glynu at bolisi hanesyddol Israel o 200 llygad am lygad.
Yn ôl Martin Luther King, a Gandhi o’i flaen, byddai polisi o lygad am lygad ond yn arwain at wneud y byd yn ddall. Beth fydden nhw’n ei ddweud petaen nhw’n fyw i weld gweithredoedd llawer mwy dialgar Israel tuag at y Palestiniaid, tybed?