Mae lluoedd America wedi ymosod o’r awyr ar dargedau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Libya.

Yn ôl swyddog o’r Unol Daleithiau, roedd yr ymosodiadau wedi’u targedu at wersyll hyfforddi’r grŵp brawychol ac uwch arweinydd eithafol.

Wnaeth y swyddog ddim dweud pwy oedd yr arweinydd na’r ardal lle ddigwyddodd yr ymosodiad.

Mae adroddiadau bod tua 30 o bobol wedi’u lladd, ond does dim cadarnhad eto.

Daw’r ymosodiad wythnos ar ôl i’r Arlywydd Barack Obama orchymyn ei dîm diogelwch cenedlaethol i gryfhau ymdrechion gwrth-frawychiaeth yn Libya tra’n parhau i geisio datrys yr argyfwng gwleidyddol drwy archwilio posibiliadau diplomyddol.

Milwyr IS Libya yn cynyddu

Tra bod IS wedi ennill tir mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Affganistan, Libya yw ei brif ffocws y tu allan i Syria ac Irac.

Mae byddin America wedi bod yn monitro’r grŵp yn Libya yn agos, tra bod lluoedd arbenigol o Brydain, Ffrainc a’r Eidal wedi bod yn helpu drwy gadw golwg o’r awyr, mapio a chasglu gwybodaeth mewn sawl dinas.

Mae tystiolaeth yn dangos bod nifer yr ymladdwyr IS yn cynyddu yn Libya, o 2,000 i tua 5,000, er bod niferoedd y grŵp yn Syria ac Irac yn gostwng.