Max Clifford
Mae’r cyn-fwtler brenhinol Paul Burrell wedi ennill achos preifatrwydd yn erbyn Max Clifford yn yr Uchel Lys.

Dyfarnodd barnwr yn Llundain y dylai Max Cliford dalu iawndal o £5,000 i Paul Burrell, a fu’n rhedeg siop flodau yn Holt ger Wrecsam yn dilyn marwolaeth y Frenhines Diana.

Roedd Max Clifford, sy’n y carchar am wyth mlynedd am droseddau rhyw, wedi dweud bod achos Paul Burrell yn ei erbyn am dorri cyfrinachedd a chamddefnyddio gwybodaeth breifat yn ‘”sarhad ar synnwyr cyffredin”.

Dywedodd Paul Burrell ei fod wedi cyflogi Max Clifford i gyfyngu sylw yn wasg amdano ond bod  Clifford wedi ei fradychu gan anfon straeon mewn ffacs i Rebekah Brooks oedd yn olygydd The News of the World ar y pryd.

Roedd Max Clifford yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn a dywedodd fod Paul Burrell wedi dod ato am un rheswm yn unig  – i werthu  straeon “syfrdanol” am ei gyfnod yn gweithio i’r frenhiniaeth.