Mae addysgwyr dirgel ym Myanmar, gwlad sydd wedi’i rhwygo gan ryfel, yn adrodd straeon cymunedol i ailfeddiannu eu hanesion a dathlu eu hunaniaethau ethnig, gyda help Prifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd, mae Dr Yi Li, hanesydd de-ddwyrain Asia fodern yn y brifysgol, yn gweithio gydag addysgwyr cymunedol mewn ysgolion ethnig ymylol ac ysgolion cymunedol ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid ar ddwy ochr y ffin rhwng Gwlad Thai a Myanmar.

Cafodd addysg yn y wlad ei darfu’n ddifrifol yn sgil y coup d’état milwrol ym mis Chwefror 2021, a’r gwrthdaro rhwng y jwnta milwrol a’r gwrthryfelwyr.

Yn ôl yr amcangyfrifon, dim ond 22% o fyfyrwyr cymwys sydd wedi’u cofrestru ar gyfer addysg lefel ysgol uwchradd yn y wlad.

“Mae’r argyfwng addysg ym Myanmar yn arbennig o ddifrifol mewn ardaloedd ymreolaethol ethnig fel rhanbarth Karenni, lle mae traean o’r boblogaeth wedi cael eu dadleoli a heb ddarpariaeth addysg ffurfiol o unrhyw fath, ac nid yw myfyrwyr nac athrawon yn gallu mynd i’r ysgolion sy’n cael eu rhedeg gan y fyddin, neu nid ydynt yn fodlon gwneud,” eglura Dr Yi Li.

“Mae ein prosiect yn cydweithredu â rhwydwaith gymunedol sydd eisoes yn bodoli i barhau i ddarparu addysg mewn argyfwng i ysgolion ar lawr gwlad ac i ystafelloedd dosbarth anffurfiol yn ardaloedd y gwrthdaro lle mae adnoddau’n brin.”

‘Diogelu atgofion lleol’

Prosiect blwyddyn yw’r gwaith, a’r nod yw brwydro yn erbyn yr ansefydlogrwydd gwleidyddol a’r bregusrwydd diwylliannol ym Myanmar drwy annog athrawon i adrodd straeon er mwyn addysgu pobol.

Mae tîm y prosiect wedi cynnal rhaglen hyfforddi ar-lein i addysgwyr cymunedol sy’n gweithio ym Myanmar neu sydd wedi’u halltudio yng Ngwlad Thai, ac wedi trefnu gweithdy addysgol a gynhaliwyd dros bedwar diwrnod ym Mhrifysgol Chiang Mai yng Ngwlad Thai.

“Trwy hyfforddi athrawon i ddefnyddio adrodd straeon cymunedol yn ddull dysgu amgen, a meithrin cyfranogiad cymunedol ar draws y cenedlaethau, ein nod yw diogelu atgofion lleol llawer o gymunedau ethnig, atgofion sydd yn aml dan fygythiad, a hynny’n annibynnol ar ddatganiadau’r jwnta,” ychwanega Dr Yi Li.