Ar ddiwrnod olaf ymgyrchu’r Etholiad Cyffredinol, mae arweinydd y Blaid Lafur wedi cychwyn yn Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.

Dywed Keir Starmer, Vaughan Gething a Martha O’Neil, yr ymgeisydd Llafur ar gyfer Caerfyrddin, bod cyfle i gael llywodraeth yn San Steffan a Bae Caerdydd fydd yn cydweithio er lles pobol yng Nghymru.

Roedd Keir Starmer hefyd yn awyddus i dynnu sylw at yr hyn sydd yn digwydd ym Mhort Talbot lle mae disgwyl i 2,800 o bobol golli’u swyddi o ganlyniad i gynllun i symud at ffyrdd gwyrdd o greu dur.

‘Gweithio efo’n gilydd’

Wrth siarad yn Hendy-gwyn ar Daf, bu Vaughan Gething yn trafod cydweithio i fynd â datganoli “yn ei flaen” a chael sefydlogrwydd economaidd.

“Ymhen dau ddiwrnod, mi fydden ni’n gwybod pwy fydd y Prif Weinidog nesaf,” meddai Vaughan Gething.

“Mi fydden ni’n gwybod a ydyn ni wedi perswadio pobol i droi’r dudalen ar y 14 mlynedd ddiwethaf.

“Fe wnes i siarad â Keir Starmer ddiwethaf ddau ddiwrnod yn ôl.

“Mi oedden ni’n siarad am y gwahaniaeth allwn ni ei wneud i gymunedau dur ar draws y wlad.

“Dyma ydi’r bartneriaeth allwn ni ei chael, dwy lywodraeth Lafur yn gweithio efo’n gilydd ar gyfer Cymru a Phrydain.

“I fynd â datganoli yn ei flaen, sefydlogrwydd economaidd, a chytundeb newydd i droi’r dudalen ar argyfwng costau byw Torïaidd.

“Fedrwn ni ond gael newid wrth bleidleisio drosto.”

‘Cyfleoedd i bobol ifanc’

Martha O’Neil, sy’n dod o Rydaman, yw ymgeisydd ifanc y Blaid Lafur yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ei haraith, dywedodd fod “cymunedau wedi dioddef 14 mlynedd hir dan y Ceidwadwyr”, a’i bod hi’n “amser am gychwyn newydd”.

“Cefais fy ngeni yn 1997, blwyddyn oedd ddim yn ddi-nod i’r Blaid Lafur,” meddai Martha O’Neil, fu’n astudio gwleidyddiaeth yng Nghaergrawnt.

“Mi oeddwn i’n lwcus iawn i dyfu fyny dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan, a Llywodraeth Lafur yng Nghymru yng Nghaerdydd, oedd yn gallu gweithio efo’i gilydd i sicrhau bod pobol ifanc efo’r cychwyn gorau yma yng Nghymru.

“Be dw i’n edrych ymlaen ato yw’r cyfle i weithio efo’n gilydd yn San Steffan a’r Senedd i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael gwared ar rwystrau sy’n effeithio ar gyfleoedd i bobol ifanc ar draws y Deyrnas Unedig.”

‘Effaith cael Llywodraeth Lafur ar Gymru’

Wrth drafod sefyllfa gwaith dur Tata, dywedodd Keir Starmer ei bod hi’n “sefyllfa ddifrifol sy’n dangos y gwahaniaeth all cael Llywodraeth Lafur yn San Steffan ei wneud yng Nghymru”.

“Oherwydd pan welsom ni be fydd yn digwydd yn Tata, ein gweithred gyntaf oedd bod mewn cyswllt efo’n gilydd o fewn munudau i siarad un-i-un, a threfnu cyfarfod i wneud yn siŵr ein bod yn gallu datrys y broblem,” meddai arweinydd y Blaid Lafur.

“A hyn er mwyn achub swyddi, ac er mwyn achub dur yma yng Nghymru.

“Ac mi wnâi gyferbynnu hyn â Rishi Sunak, a ddywedodd ei fod yn rhy brysur i gymryd galwad ynglŷn â’r sefyllfa.”

Sylwadau gan ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen:

Yr amcan fu’r tri siaradwr heddiw yn ei bwysleisio oedd cydweithio rhwng y Senedd a San Steffan er lles pobol yng Nghymru. Mae’r neges yma wedi cael ei hail-adrodd dro ar ôl tro yn ystod yr ymgyrch.

Bydd llawer o sylw yn cael ei roi at yr addewid i wella’r berthynas o’r cychwyn cyntaf os y bydd Keir Starmer yn fuddugol yn ei ymgyrch i fod yn Brif Weinidog ddydd Gwener.  

Mae’r lleoliad yn un arwyddocaol hefyd, yn etholaeth Caerfyrddin, lle mae’r arolygon barn yn gweld brwydr agos iawn rhwng Martha O’Neil ac Ann Davies o Blaid Cymru. Bydd Llafur yn awyddus i drechu Plaid Cymru, yn ogystal â’r Ceidwadwyr, yr etholiad hwn, wrth iddyn nhw geisio ailsefydlu’r naratif am y Blaid Lafur yng Nghymru fel un sy’n brwydro i fod yn unedig, yn enwedig ar ôl problemau amlwg Vaughan Gething yn ei fisoedd cyntaf fel Prif Weinidog.