Mae ymgeisydd seneddol Ceidwadol Aberconwy wedi dweud ei fod yn “falch” o ymdrech aelodau Ceidwadol wrth geisio sicrhau nad yw gogledd Cymru’n “cael ei hanwybyddu”.
Dywed Robin Millar bod cael Prif Weinidogion y Deyrnas Unedig i ymweld â’i etholaeth bum gwaith mewn pedair blynedd a hanner yn golygu ei fod wedi “gwneud ei swydd”
“Dw i’n deall yr ystadegau. Mae 75% o’r boblogaeth yng Nghymru yn byw o fewn 90 munud o Gaerdydd,” meddai wrth golwg360.
“Ond y gwir ydi nid yw Gogledd Cymru yn gallu cael ei anwybyddu.”
Ar ôl newid y ffiniau yng Nghymru, mae sedd newydd Bangor Aberconwy yn cyfuno rhannau o’r hen Arfon ac yn mynd drwy Aberconwy i ymylon gorllewinol yr hen Orllewin Clwyd.
Trydanu rheilffordd y gogledd
Rhan o faniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer yr etholiad yw addewid i wario £1bn i drydanu rheilffordd gogledd Cymru.
Fodd bynnag, mae amheuaeth am y cynllun gan nad oes cyllid wedi’i gytuno arno ac nid yw wedi cael sel bendith swyddogol llywodraeth y Deyrnas Unedig. Er hynny, mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd yn mynd yn ei flaen.
Daw’r arian arfaethedig yn sgil cael gwared ar y cynlluniau ar gyfer HS2 rhwng Birmingham a Manceinion.
Dydy seilwaith y rheilffyrdd heb gael ei ddatganoli i Gymru felly mae’n gyfrifoldeb ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid Cymru.
Dywed Millar bod y £1bn sydd yn cael ei addo gan y Ceidwadwyr yn “bwysig” i helpu i guro teimlad bobol yn y gogledd eu bod nhw’n cael eu “diystyru”.
“Os wyt ti’n berson ifanc yn tyfu fyny, mae’n rhaid i ti edrych tu allan o Gymru am gyfleoedd,” meddai.
“Dw i’n credu bydd y biliwn sydd yn cael ei addo i drydanu’r rheilffyrdd yn newid hyn i bobol ifanc.
“Dw i’n cofio’r effaith gafodd [datblygu’r] A55 ar yr economi lleol.
“Roedd o’n golygu bod pobol yn gallu mynd ymhellach i mewn i ogledd Cymru, ac roedd hyn yn golygu mwy o gwsmeriaid i fusnesau.”
Yn ôl Robin Millar byddai’r trydanu’r rheilffordd yn y gogledd yn cael yr un effaith oherwydd y byddai’n ei gwneud hi’n “haws” i bobol deithio i’w gwaith tra’n parhau i fyw yn yr ardal.
Hefyd, dywed Robin Millar bod y trydanu yn ffordd o leihau allyriadau carbon a bod y cynllun yn “gyfraniad allweddol i’r weledigaethau o gyrraedd net-sero.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae trafnidiaeth yn cyfrannu tuag at 17% allyriadau carbon yng Nghymru gydag ond 1% o hyn yn dod o’r rheilffyrdd. Y gobaith yw, drwy gael system drafnidiaeth sydd yn fwy dibynadwy a chyflym, y bydd pobol yn dewis defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na theithio mewn car.
Yn ôl Robin Millar, cyn belled ag y mae’n gwybod, mae achos busnes amlinellol wedi cychwyn, sef y cam cyntaf tuag at y prosiect.
Arian o ganlyniad HS2
Yn ôl Millar, mae’r gwyn bod Cymru wedi cael ei thwyllo o gyllid canlyniadol o HS2 yn “tinpot” oherwydd ei fod yn brosiect Lloegr a Chymru sydd gan “fudd i ogledd Cymru”.
Mae Plaid Cymru yn credu y dylai £5bn gael ei roi i Lywodraeth Cymru gan nad oes rhan o’r rheilffordd yn dod i Gymru.
Nid yw Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrth-blaid, na’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i dalu unrhyw arian canlyniadol oherwydd HS2.
Dywed Millar bod y ddadl y dylai arian ddod o ganlyniad i HS2 yn dod gan “wleidyddion sydd wedi’u lleoli yn ne Cymru”.
“Be sydd yn mynd ymlaen yma yw bod gwleidyddion ym Mae Caerdydd eisiau gwario’r arian allan o Gaerdydd yn lle dyrannu’r arian i brosiect, sy’n cael ei redeg heb eu dylanwad nhw, mewn i ogledd Cymru,” meddai.
Etholiad 2024: Bangor Aberconwy
Mae wyth ymgeisydd yn y ras ym Mangor Aberconwy – John Clark (Reform UK), Petra Haig (Y Gwyrddion), Claire Hughes (Llafur), Kathrine Jones (Sosialwyr Llafur), Steve Marshall (Y Blaid Hinsawdd), Robin Millar (Ceidwadwyr), Rachael Roberts (Y Democratiaid Rhyddfrydol) a Catrin Wager (Plaid Cymru).
Yn 2019, Robin Millar, sydd yn sefyll i’r Ceidwadwyr, oedd yn fuddugol yn Aberconwy gyda mwyafrif o 2,000 o bleidleisiau.
Yn Arfon, Plaid Cymru a Hywel Williams oedd yn fuddugol gyda mwyafrif o 2,800.