Gallai Cymru fod heb yr un Aelod Seneddol Ceidwadol ar ôl yr Etholiad Cyffredinol fory (Gorffennaf 4), yn ôl yr arolwg barn diweddaraf.
Mae’r arolwg gan Barn Cymru yn dangos y gallai Llafur ennill 29 o’r 32 sedd, gyda’r Ceidwadwyr yn colli seddi fel Sir Fynwy, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Y disgwyl, yn yr arolwg, yw i Blaid Cymru Cymru ennill yng Ngheredigion Preseli a Dwyfor Meirionnydd, ond mae pedair sedd ry agos i’w darogan.
Y seddi hynny yw Ynys Môn a Chaerfyrddin rhwng Plaid Cymru a Llafur, Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, a Maldwyn a Glyndŵr rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.
O ran canrannau pleidleisio, mae pethau’n dynn rhwng y Ceidwadwyr a phlaid Reform yn yr ail safle yng Nghymru, yn ôl yr arolwg, sydd wedi cael ei gynnal gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Dangosa bod disgwyl i’r ddwy blaid ennill 16% o’r bleidlais, tra bo disgwyl i Lafur ennill 40% o’r gefnogaeth yng Nghymru.
Pe bai’r arolwg barn yn agos at ei le, byddai’r ganran i’r Ceidwadwyr yn is nag enillon nhw yn 1997 (19.6%) pan na chafodd yr un Aelod Seneddol Ceidwadol ei ethol o Gymru.
Yn ôl y data, mae’r bleidlais i Blaid Cymru ar 14%, sydd hefyd yn golygu bod Reform yn mynd ar y blaen iddyn nhw.
Llafur – 40%
Ceidwadwyr – 16%
Reform UK – 16%
Plaid Cymru – 14%
Y Democratiaid Rhyddfrydol – 7%
Y Blaid Werdd – 5%
Eraill – 2%
“Ergyd fawr” i’r Ceidwadwyr
Dywed Dr Jac Larner o Ganolfan Lywodraethiant Cymru bod canlyniadau’r arolwg yn “ergyd fawr” i’r Ceidwadwyr.
“Hwn yw arolwg YouGov gwaethaf y blaid yng Nghymru, a phe bai’n cael ei adlewyrchu ar ddiwrnod yr etholiad, byddai’n cynrychioli perfformiad gwaethaf y Ceidwadwyr yng Nghymru ers Etholiad Cyffredinol 1918,” meddai.
“Tra bo ffigurau Llafur yn debyg i’r rhai yn 2019, pan wnaeth nifer eu seddi ostwng i’r lefel isaf ers degawdau, byddan nhw’n wynebu mwy o wrthwynebiad am seddi yn sgil cwymp y Ceidwadwyr.
“Yn sgil hynny, fedran nhw ddisgwyl ennill pleidleisiau mewn seddi Ceidwadol ond efallai na wnawn nhw mor dda mewn seddi lle mae hi’n dynn rhwng Plaid Cymru a Llafur: Ynys Môn a Chaerfyrddin.
“Mae’r arolwg hefyd yn dangos y gefnogaeth uchaf i Reform UK hyd yn hyn.
“Mae’r blaid wedi elwa ar gwymp y Ceidwadwyr gyda bron i draean o gyn-bleidleiswyr y Ceidwadwyr yn dweud y byddan nhw nawr yn pleidleisio dros Reform.
“Er eu bod nhw’n annhebygol o ennill unrhyw seddi yng Nghymru, mae’n bosib y byddan nhw’n gorffen fel yr ail blaid fwyaf o ran dyraniadau pleidleisiau Cymru.”
Etholiadau’r Senedd
Roedd yr arolwg barn hefyd yn edrych ar y sefyllfa yn y Senedd, ac yn dangos bod y gefnogaeth i Lafur wedi gostwng i 27%.
Pe bai etholiad Senedd Cymru nawr, byddai pobol yn pleidleisio fel a ganlyn, medd yr arolwg:
Llafur – 27%
Plaid Cymru – 23%
Y Ceidwadwyr – 18%
Reform UK – 18%
Y Democratiaid Rhyddfrydol – 6%
Y Blaid Werdd – 5%
Arall – 3%