Mae’r ymgeisydd Propel Neil McEvoy yn dweud nad yw taflenni ymgyrchu wedi cael eu dosbarthu’n gywir yn etholaeth Gorllewin Caerdydd.

Yn ôl Neil McEvoy, mae’r Post Brenhinol wedi methu dosbarthu’r ffurflenni yn Y Tyllgoed, Canton, Caerau, Trelái, Pentre’ Baen a Pont-y-clun.

Dywed yr ymgeisydd, fu’n Aelod o’r Senedd rhwng 2016 a 2021 fel cynrychiolydd Plaid Cymru ac yna aelod annibynnol, wrth golwg360 ei fod wedi gwneud cwyn ffurfiol.

“Dw i ddim yn gweld pam ddylwn i, neu Propel, orfod talu’r arian i brintio’r taflenni iddyn nhw beidio cael eu hanfon,” meddai.

Mae gan y Post Brenhinol system sy’n golygu bod Rheolwr Etholiadol ym mhob etholaeth yn gweithio gydag ymgeiswyr i ddarparu taflenni ymgyrchu.

Maen nhw’n pwysleisio mai dyletswydd yr ymgeisydd a’r blaid wleidyddol yw sicrhau bod y papurau’n cael eu danfon i swyddfa gywir y Post Brenhinol ar amser.

Dywed McEvoy ei fod yn ymwybodol o achosion lle mae ei daflennu wedi’u torri fyny yn ardal Glan yr Afon o Gaerdydd.

“Yno, yn lle cael eu dosbarthu, mae ein ffurflenni wedi cael eu torri fyny mewn pentyrrau,” meddai.

“Mae gennym ni etholiad yfory ac mae o’n ymddangos bod hanner Gorllewin Caerdydd heb dderbyn fy nhaflen.

“Mae o’n gwneud ffars o’r broses ddemocrataidd.”

‘Anodd i bleidiau bach’

Ynghyd a’r gwyn yn erbyn y Post Brenhinol, mae McEvoy hefyd o’r farn bod hi’n anodd iawn i bleidiau bach i herio’r pleidiau mwyaf yn y sefydliad yng Nghymru.

“Mae unrhyw blaid tu allan i’r pleidiau traddodiadol yn cael yr un driniaeth.”

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Post Brenhinol am ymateb.