Rydyn ni bron ar ddiwedd y lôn etholiadol.
Chwe wythnos ar ôl i Rishi Sunak sefyll tu allan i Rif 10 yn y glaw di-stop, mae fel petai’r cwmwl wedi’i ddilyn drwy’r ymgyrch.
Os edrychwn ar yr arolygon barn ar lefel y Deyrnas Unedig, does fawr o newid wedi bod. Y newid mwyaf yw bod Reform wedi medru cynyddu eu cefnogaeth o tua 10% i 16% dros y cyfnod ymgyrchu.
Yma yng Nghymru, o safbwynt niferoedd pleidleisio, mae’r newid tuag at Reform yn debygol o gael effaith fawr ar y Ceidwadwyr. Mae’n edrych fel eu bod nhw am fynd o un o’u canlyniad gorau erioed yma yn 2019, i fod yn lwcus i ennill dwy sedd.
Dyma yw dadansoddiad Dr Jac Larner o’r Ganolfan Llywodraethiant Cymru wrth siarad â ITV Cymru:
“Y newid mwyaf yw lle mae’r Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Plaid ddaru wneud mor dda o safbwynt hanesyddol, gyda’r ail ganlyniad gorau erioed [yn 2019], i rŵan edrych ar eu canlyniad gwaethaf erioed,” meddai.
“16% yn yr arolwg barn diweddaraf, mae’n rhaid i chi fynd nôl i 1918 i gael canlyniad gwaeth na hyn yng Nghymru, pan oedd system etholiadol wahanol a doedd menywod ddim yn gallu pleidleisio, felly rydych yn sôn am gwymp hanesyddol i’r blaid yma.”
I’r rhai sydd am aros ar eu traed drwy oriau mân dydd Gwener, mae seddi diddorol tu hwnt yng Nghaerfyrddin ac Ynys Môn, dwy etholaeth sy’n debygol o gael gornest rhwng Llafur a Phlaid Cymru, a rhai Ceidwadol Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, Maldwyn a Glyndŵr a Sir Fynwy.
Ond beth am yr addewidion i Gymru a’r Deyrnas Unedig – oes yna ddigon o drafodaeth wedi bod ynglŷn â’r gweledigaethau sydd am symud y wlad ymlaen ar adeg tu hwnt o heriol?
Y Blaid Lafur
Os gawn ni edrych yn gyntaf ar Lafur…
Mae Keir Starmer wedi gwneud ambell ymweliad i Gymru, yn aml yn cael ei weld efo Vaughan Gething hyd yn oed ar ôl iddo golli pleidlais diffyg hyder yn y Senedd.
I Lafur mae’r neges wedi bod yn glir, pleidleisiwch Lafur a gewch chi fwy o gydweithio, ac o ganlyniad i hynny, gwell bargen i Gymru.
Ond i’r gwrthbleidiau, yn enwedig Plaid Cymru, mae hyn wedi bod yn ffon i daro Llafur, gyda Rhun ap Iorwerth yn defnyddio diffyg parodrwydd Llafur i wrando ar y Senedd fel arwydd nad yw’r blaid yn cymryd Cymru o ddifri.
Hefyd, gwelsom Jo Stevens, sy’n gobeithio dod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn yr etholiad, yn gwrthod ymrwymo i roi cyllid canlyniadol HS2 i Gymru na thrydanu rheilffordd y gogledd.
Er bod maniffesto Llafur yn un mawr, does yna ddim llawer o addewidion cryf o ran polisïau cadarn. Felly os byddan nhw’n fuddugol, bydd rhaid i bethau ddod yn gliriach ar ôl i’r cyllid argyfwng gael ei gyhoeddi cyn yr haf.
Y Ceidwadwyr
Efo’r Ceidwadwyr, mae’n teimlo fel eu bod nhw wedi gorfod oedi a meddwl am syniadau ffres i drio newid meddylfryd.
Cofiwch yn ôl i gychwyn yr ymgyrch pan oedd Sunak yn pwysleisio’r clo triphlyg ar bensiynau i ddenu pleidlais yr henoed. Yna, cafwyd polisi ar wasanaeth cenedlaethol, rhywbeth gafodd ei gyfathrebu yn wael iawn gyda nifer yn ei ddehongli fel ryw fath o call to arms.
Erbyn hyn, mae’n teimlo bod y bws Ceidwadol wedi dod i stop ar y llinell derfyn, gyda’r Gweinidog Mel Stride yn cyfaddef bod posibilrwydd mawr o gael mwyafrif enfawr i’r Blaid Lafur.
Plaid Cymru
I Blaid Cymru mae’r etholiad wedi bod yn well na’r disgwyl.
Ar gychwyn yr ymgyrch, roedd yn ymddangos fel bod yr arweinydd Rhun ap Iorwerth yn cyfaddef y bydd yr etholiad yn un “heriol” i’r Blaid, yn enwedig gan ystyried bod newid y ffiniau yn gostwng nifer y seddi o 40 i 32 yng Nghymru.
Ond gyda sŵn mawr am HS2 a chyfleoedd i Rhun ap Iorwerth fynd ar ddadleuon cenedlaethol, mae’n edrych fel bod y Blaid mewn cyflwr gwell na’r disgwyl yn mynd mewn i’r etholiad fory.
Wrth gwrs, fel maen nhw’n ei ddweud, the proof is in the pudding, felly bydd rhaid aros i weld y canlyniadau. Ond, os yn fuddugol yng Nghaerfyrddin ac Ynys Môn, does dim amheuaeth y bydd y Blaid yn teimlo nerth i fynd mewn i etholiadau Senedd 2026 gyda momentwm cwbl wahanol i etholiadau diweddar.
A beth am y gweddill?
Wel, beth bynnag yw barn bobol am Nigel Farage a Reform, mae ei allu i ymgysylltu â phobol sydd yn erbyn mewnfudo wedi bod yn llwyddiannus. Ac am y tro cyntaf, mae ganddo siawns o ennill sedd yn San Steffan yn etholaeth Clacton yn Essex.
Mae’n sicr y byddai cael Farage fel gwleidydd go iawn yn San Steffan yn broblem fawr i’r Ceidwadwyr, wrth iddyn nhw geisio adennill pleidleiswyr fydd wedi troi eu cefnau atyn nhw er mwyn pleidleisio am y Reform.
I Syr Ed Davey a’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n ymddangos eu bod nhw’n rhydd o effaith eu clymblaid â’r Ceidwadwyr yn 2010 o’r diwedd.
Mae styntiau Ed Davey wedi creu adloniant mewn ymgyrch etholiad sydd wedi bod yn eithaf negyddol, a, fyw i mi ddweud, ond diflas i hyd yn oed y mwyaf gwleidyddol yn ein mysg. Drwy’r styntiau, mae wedi bod yn llwyddiannus yn cyfleu barn y blaid am faterion pwysig fel llygredd dwr a gofal cymdeithasol hefyd.
Yn y bôn, mae’r etholiad wedi teimlo’n rhagweladwy drwy gydol yr ymgyrch. Wrth gwrs, gall hyn newid fory. Ond i nifer, mae cwestiynau amlwg dal i fod am sut y bydd y llywodraeth nesaf yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig.