Mae Taiwan wedi dweud bod Tsieina wedi gosod taflegrau gwrth-awyrennau ar ynys sydd yn cael ei hawlio gan y ddwy wlad.

Dywedodd eu gweinidogaeth amddiffyn eu bod “wedi deall fod Tsieina Gomiwnyddol wedi gosod” y taflegrau ar Ynys Woody, sydd yn rhan o grŵp y Paracel.

Mae’r ynysoedd ym Môr De Tsieina yn cael eu hawlio gan Tsieina, Taiwan a Vietnam, ac mae’r môr o’u cwmpas yn un o’r llwybrau cychod prysuraf yn y byd.

Mae gwledydd eraill yn y rhanbarth fel y Phillipinau, Brunei a Malaysia hefyd yn hawlio rhannau o’r môr, sydd â digonedd o bysgod yn ogystal â chronfeydd olew a nwy o bosib.

Rhybudd gan Awstralia

Yn ddiweddar mae Tsieina wedi bod yn ceisio adeiladu ynysoedd newydd yn y môr drwy arllwys tywod ar ben basgreigiau ac yna adeiladu lleiniau glanio awyrennau a chyfleusterau milwrol.

Mae llawer o’r gwaith yn digwydd o gwmpas Ynysoedd Spratly, ble mae gan Tsieina, Taiwan, Phillipines, Vietnam a Malaysia i gyd bresenoldeb milwrol ac yn hawlio rhywfaint o’r tir.

Mae’r Unol Daleithiau hefyd yn monitro sefyllfa’r ynysoedd yn aml, a chyn ymweliad â Beijing yr wythnos hon fe ddywedodd gweinidog tramor Awstralia y dylai pob un o’r gwledydd roi’r gorau i adeiladu ar yr ynysoedd.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran gweinidogaeth dramor Tsieina y dylai Awstralia fabwysiadu “agwedd wrthrychol a diduedd” tuag at faterion ym Môr De Tsieina.

Ychwanegodd arlywydd, Taiwan Tsai Ing-wen, y dylai “pob ochr gadw’r heddwch wrth geisio datrys anghydfod Môr De Tsieina a dangos rhywfaint o hunan ataliaeth.”