Fe fydd cynllun newydd i geisio newid ymddygiad unigolion sydd â’r risg uchaf o gyflawni trais domestig yn cael ei dreialu yn ne Cymru.

Bydd rhaglen Drive, sydd yn cael ei gefnogi gan elusennau trais SafeLives a Respect, yn cynnig sesiynau unigol i’r rheiny sydd yn cael eu hystyried yn fwyaf tebygol o droseddu.

Mae wedi derbyn cefnogaeth gan Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd De Cymru, Essex a Sussex, sef y tair ardal fydd yn rhoi cynnig ar y cynllun yn gyntaf.

Yn ôl Rachel Williams o Gasnewydd, a ddioddefodd 18 mlynedd o drais yn y cartref oddi wrth ei gŵr Darren, mae’n bwysig taclo’r sawl sydd yn gyfrifol yn ogystal â helpu’r dioddefwyr.

“Os na wnawn ni ddelio â nhw, fe wnawn nhw symud ymlaen i’r dioddefwr nesaf. Mae’n rhaid i ni o leiaf geisio newid eu meddylfryd,” meddai.

‘Lleihau nifer y troseddwyr’

Bydd y cynllun newydd yn cael ei hariannu gan y comisiynwyr heddlu ac awdurdodau lleol yn ogystal â Sefydliad Banc Lloyds Cymru a Lloegr a’r Tudor Trust.

Yn ôl Diane Barran, prif weithredwr elusen SafeLives, y bwriad gyda’r cynllun peilot yw profi bod modd iddo weithio mewn rhannau eraill o Gymru a Phrydain hefyd.

“Mae SafeLives eisiau lleihau’r nifer o ddioddefwyr o drais domestig, ond dyw hyn ddim yn bosib heb leihau nifer y troseddwyr,” meddai.

“Mae’r dioddefwyr rydyn ni’n gweithio â nhw yn gofyn pam mai nhw yw’r rhai y mae disgwyl iddyn nhw newid, tra bod y troseddwr yn rhydd i barhau â’u trais yn eu herbyn hwy ac eraill.

“Rydyn ni eisiau helpu dioddefwyr heddiw a lleihau’r nifer o ddioddefwyr yfory. Rydyn ni’n arwain drwy dystiolaeth felly fe fyddwn ni’n profi’r ymyriad yma mewn tair ardal, gyda’r bwriad o brofi ei fod yn gweithio a’i sefydlu ar draws y wlad.”