Mae David Cameron wedi pwysleisio’r angen am undod Ewropeaidd er mwyn sicrhau diogelwch y cyfandir rhag bygythiadau’r Wladwriaeth Islamaidd  a Rwsia.

Mewn araith yn Hamburg, apeliodd y Prif Weinidog am gefnogaeth yr Almaen i’r newidiadau y mae Prydain yn eu ceisio i’r Undeb Ewropeaidd.

Gydag uwch-gynhadledd allweddol ym Mrwsel lai nag wythnos i ffwrdd, mae’n ceisio ennill cefnogaeth gwledydd eraill Ewrop i’w gynlluniau. Os bydd yn llwyddo, y disgwyl yw y bydd yn bwrw ymlaen â refferendwm ar barhad aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin.

Mae’n ymddangos fod Arlywydd America’n cefnogi safbwynt Cameron ar bwysigrwydd undod Ewropeaidd i heddwch. Mae disgwyl i Barack Obama geisio apelio ar i bobl Prydain bleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd unwaith y bydd ymgyrch y refferendwm wedi cychwyn.

‘Gweithio gyda’n gilydd’

“Mae angen i Brydain a’r Almaen weithio gyda’n gilydd i adeiladu Undeb Ewropeaidd a all sicrhau ffyniant a diogelwch inni i gyd,” meddai David Cameron yn ei araith.

“Mewn byd lle mae Rwsia’n ymosod ar yr Wcrain, a gwladwriaeth beryglus fel Gogledd Corea yn profi arfau niwclear, mae angen inni sefyll yn erbyn yr ymosodiadau hyn a defnyddio’n grym economaidd i rwystro’r rheini sy’n bygwth diogelwch ein pobl.

“Ac mewn byd lle mae pobl yn edrych ar fygythiad eithafiaeth ac yn beio tlodi ar bolisi tramor y gorllewin, mae angen i ni ddweud: na, mae’n ymwneud ag ideoleg sy’n cipio Islam i’w ddibenion barbaraidd ei hun a gwenwyno meddyliau ein pobl ifanc.

“Ac yn union fel mae Ewrop wedi wynebu ideolegau peryglus a llofruddiaethol yn y gorffennol, mae’n rhaid inni unwaith eto sefyll gyda’n gilydd yn hyn, brwydr ein cenhedlaeth.”