Byddai effeithiau rhyfel rhanbarthol yn y Dwyrain Canol “i’w teimlo ledled y byd”, yn ôl Liz Saville Roberts.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth iddi alw o’r newydd am gadoediad.

Mae Israel bellach wedi tanio taflegrau at Iran, wrth iddyn nhw ymateb i ymosodiad Tehran arnyn nhw dros y penwythnos.

Ymhlith yr effeithiau mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn sôn amdayn nhw mae cynnydd ym mhrisiau olew, ac mae pryderon y gallai parhad y gwrthdaro arwain at ddiffyg cyflenwadau’n gyfangwbl.

“Mae’r gwrthdaro rhwng Iran ac Israel yn beryglus i’r Dwyrain Canol i gyd,” meddai Liz Saville Roberts.

“Byddai rhyfel rhanbarthol yn drychineb ddyngarol ac economaidd, a byddai effeithiau hynny i’w teimlo ledled y byd

“Rhaid inni geisio sefydlu heddwch parhaol, gan ddechrau gyda chadoediad parhaol yn Gaza.”

‘Pryderus iawn’

Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, hefyd wedi mynegi pryderon am y sefyllfa.

“Pryderus iawn clywed am y taflegryn o Israel sydd wedi taro Iran,” meddai.

“Rhaid rhoi pwysau ar y gwladwriaethau hyn i atal.”

Ychwanega fod ymateb Israel i’r ymosodiad gan Iran yn “annoeth” ac y bydd yn “dwysáu pethau ymhellach”.