Mae arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd dan y lach am ei sylwadau’n beio staff Sain Ffagan am heriau Amgueddfa Cymru.
Yn ôl Heledd Fychan, llefarydd Diwylliant Plaid Cymru, roedd sylwadau’r Cynghorydd Huw Thomas ar y rhaglen Y Byd Yn Ei Le ar S4C neithiwr (nos Iau, Ebrill 18) yn “sarhaus a di-sail”.
Dywedodd Huw Thomas wrth y rhaglen fod mwy na £30m wedi cael ei wario ar yr amgueddfa ryw bum mlynedd yn ôl, ac y byddai uwch reolwyr wedi bod yn ymwybodol o “issues” ar y pryd.
“Yn amlwg mae ‘na angen gwario cynnal a chadw ar yr adeilad,” meddai.
“Un peth sydd yn fy nharo i….fe ddyweda i hyn…. ydi rhyw bum mlynedd yn ôl, fe wariwyd £30m a mwy ar ailwneud Sain Ffagan, prosiect llwyddiannus tu hwnt, ond mae’n rhaid bod y staff oedd yn rheoli’r amgueddfa ar y pryd yn ymwybodol o issues yr amgueddfa yng Nghaerdydd bryd hynny.”
Ychwanegodd ei fod yn synnu nad oedd gwaith cynnal a chadw wedi cael ei flaenoriaethu ar y pryd, a hynny ar adeg pan fo mwy o arian ar gael, yn hytrach na gwario arian ar bethau “nice to have“.
“Dwi yn pendroni pan ddim blaenoriaethu ar y pryd hynny pan oedd yna fwy o arian i ddiogelu’r adeilad yng Nghaerdydd bryd hynny, yn lle gwario ar bethau nice to have yn San Ffagan.”
‘Sarhaus a di-sail’
Roedd Heledd Fychan hefyd ar y rhaglen Y Byd Yn Ei Le.
“Mae’r rhain yn sylwadau sarhaus a di-sail gan Arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd a ddylai wybod yn well a dweud y gwir,” meddai.
“Yn union fel sy’n wir gyda’r Gwasanaeth Iechyd, mae patrwm o wleidyddion Llafur yn dod i’r amlwg sy’n beio staff, boed hynny yn ein Byrddau Iechyd neu ein sefydliadau cenedlaethol, am eu hanallu eu hunain i gydbwyso’r llyfrau mewn ffordd gynaliadwy.
“Sain Ffagan yw trysor pennaf arlwy ein prifddinas i ddinasyddion ac i ymwelwyr Cymru fel ei gilydd.
“Mae’n anhygoel clywed arweinydd Cyngor Caerdydd yn cyfeirio at ddatblygiadau mawr ar y safle – a oedd y Grant Loteri Treftadaeth fwyaf erioed i gael ei ddyfarnu i unrhyw sefydliad yng Nghymru ar y pryd – fel nice to have.
“Dylai arweinydd Cyngor Caerdydd fod yn bencampwr brwd i arlwy diwylliannol y ddinas.
“Yn hytrach, mae gennym rywun sy’n hapus i gytuno â phennaeth ei blaid yng Nghymru a amddiffynnodd doriadau ei lywodraeth i Amgueddfa Cymru yr wythnos hon, a hynny’n bygwth cof diwylliannol cyfunol Cymru ymhellach.
“Y peth lleiaf y dylai Huw Thomas ei wneud yw myfyrio ar ei sylwadau ac ymddiheuro.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Cynghorydd Huw Thomas.