Ffoaduriaid yn cyrraedd Lesbos y llynedd
Mae beth bynnag 33 o ffoaduriaid oedd yn ceisio cyrraedd gwlad Groeg, wedi boddi wedi i ddau gwch fynd i drafferthion oddi ar arfordir Twrci.
Bu 22 ohonyn nhw farw wedi i gwch droi drosodd yn ardal Bae Edremit ger ynys Lesbos.
Cyn hynny, roedd asiantaethau newyddion yn adrodd am 11 o gyrff eraill oedd wedi’u canfod i’r de o’r ardal honno, ger tre’ Dikili.
Mae’r corff rhyngwladol, IOM, sy’n cadw golwg ar symudiad ffoaduriaid o gwmpas y byd, yn dweud fod cyfanswm o 374 o bobol wedi’u lladd hyd yn hyn eleni, tra’n ceisio cyrraedd gwlad Groeg.