Mae mwy na 1,900 o gartrefi heb drydan yng Nghymru y bore yma o ganlyniad i dywydd gwael.
Dyma’r sefyllfa ddiweddara’, yn ol cwmni Western Power:
* mae 671 o gartrefi yn sir Gaerfyrddin wedi colli eu cyflenwad trydan;
*418 yng o gartrefi yn sir Nghasetll-nedd Port Talbot;
* 352 o dai heb drydan yng Nghwm Rhondda;
* 190 o gartrefi ym Mro Morgannwg;
* 80 o dai heb drydan yn Sir Fynwy;
* 76 o gartrefi heb gyflenwad yng Ngheredigion;
* 70 arall yn sir Benfro;
* a 52 o gartrefi yng Nghaerdydd.
Mae 16 rhybudd coch am lifogydd yn parhau mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda 23 rhybudd oren lle dylai pobol fod yn barod am lifogydd. Mae disgwyl i arfordiroedd Cymru a rhannau o’r de gael eu heffeithio’n bennaf.