Mae adroddiad drafft gan Aelodau o Senedd Ewrop yn argymell rhoi statws cyfartal i Sbaeneg a Chatalaneg mewn ysgolion yng Nghatalwnia.

Daw’r adroddiad ar ôl i’r Aelodau fynd i Gatalwnia ym mis Rhagfyr ar daith canfod ffeithiau am y system drochi.

Bydd yr adroddiad drafft yn destun dadl yng nghyfarfod Pwyllgor Deisebau’r Undeb Ewropeaidd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 14).

Dywed yr adroddiad fod yr hawl i dderbyn addysg yn Sbaeneg “yn rhan o Gyfansoddiad Sbaen”, a bod rhaid i’r awdurdodau sicrhau nad oes yna wahaniaethu yn erbyn unrhyw blentyn.

“Dylai’r system addysg yng Nghatalwnia roi triniaeth gyfartal i Sbaeneg a Chatalaneg fel ieithoedd addysg,” medd yr adroddiad.

Mae hefyd yn cyfeirio at achosion o “fygwth” ac “iaith atgas” tuag at y rhai oedd yn mynnu yn y llysoedd fod rhaid dysgu 25% o wersi trwy gyfrwng y Sbaeneg.

Wfftio’r adroddiad

Mae Llywodraeth Catalwnia wedi wfftio’r adroddiad, gan ddweud ei fod yn un “rhannol” orffenedig ac wedi’i seilio ar “lwyth o gelwyddau”.

Does “dim syndod” yn yr adroddiad, medd llefarydd, sy’n mynnu ei fod yn seiliedig ar gamdybiaethau am y system addysg yng Nghatalwnia.

Mae’r llefarydd yn dweud bod yr iaith a’r system addysg wedi’u defnyddio ers tro i “greu stori ffug” fod siaradwyr Sbaeneg yn cael eu herlid yng Nghatalwnia.

Taith canfod ffeithiau

Aeth unarddeg o Aelodau o Senedd Ewrop ati ym mis Rhagfyr i archwilio system addysg a system drochi Catalwnia.

Fel rhan o’r system honno, mae addysg plant yn gyfangwbl drwy’r Gatalaneg oni bai am wersi ieithoedd tramor.

Aelodau asgell dde oedd y rhan fwyaf o’r rheiny fu’n archwilio’r system, gyda nifer ar yr asgell chwith yn cynnal boicot ar sail “rhagfarn wleidyddol”, ac felly fydd dim modd iddyn nhw gynnig gwelliannau, er y bydd modd iddyn nhw graffu ar yr argymhellion terfynol.

Mae’r adroddiad yn galw am sicrhau bod “parch” at y cydbwysedd rhwng y ddwy iaith mewn addysg, a “thriniaeth gyfartal” i’r ieithoedd cyd-swyddogol.

Un o argymhellion yr adroddiad yw fod Llywodraeth Sbaen yn sicrhau bod “isafswm safonau” pan ddaw i ddysgu trwy gyfrwng y naill iaith a’r llall.

Argymhelliad arall yw cynnal arolwg annibynnol o’r system drochi.

Mae hefyd yn galw am “well gyfathrebu” rhwng Llywodraeth Catalwnia a rhieni plant sy’n rhan o’r system drochi ac sydd wedi dwyn achos trwy’r llysoedd, gan sicrhau “sgwrs adeiladol”.