A hithau’n bum mlynedd ers agor ffordd osgoi’r Drenewydd, mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn yn galw am wella rhagor o ffyrdd yn y sir.

Yn ôl Russell George, mae ffordd osgoi’r Drenewydd, oedd wedi bod yn yr arfaeth ers 70 mlynedd cyn ei hagor, wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r ardal.

Ond dywed fod angen gwella rhagor o ffyrdd hefyd.

Fis Mawrth 2011, cyflwynodd e ddeiseb â 10,000 o lofnodion arni i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn galw am adeiladu ffordd osgoi’r Drenewydd, ac fe ddechreuodd y gwaith adeiladu yn 2016.

Nod y ffordd osgoi oedd cyfeirio cerbydau i ffwrdd o ganol y dref a gwella’r llif ar hyd ffordd A483 i bobol leol, ond fe fu hefyd yn fodd o hwyluso teithio ledled Cymru.

‘Cysylltiadau trafnidiaeth da yn allweddol i’r economi leol’

“Ers i fi gael fy ethol i Senedd Cymru, dw i wedi bod yn ymgyrchu dros well isadeiledd trafnidiaeth i Sir Drefaldwyn,” meddai Russell George.

“Mae cysylltiadau trafnidiaeth da yn allweddol i wella’r economi leol, a dyna pam wnes i ymgyrchu’n weithgar dros ffordd osgoi’r Drenewydd, ac yn parhau i ymgyrchu dros gynlluniau gwella ffyrdd pwysig eraill, yn ogystal â gwella diogelwch y ffyrdd.

“Fe fu’r ffordd osgoi yn bositif i’r Drenewydd a threfi fel Llanidloes a Machynlleth.

“Ers i’r ffordd osgoi agor, mae cynlluniau pwysig eraill wedi’u cyflwyno, megis y bont dros y Ddyfi…

“Mae’r bont newydd dros y Ddyfi bellach yn gwella dibynadwyedd croesi afon Dyfi i bobol Machynlleth a’r cyffiniau.”

Mae’n galw am wella ffyrdd yng Nghaersws, rhaglen i wella’r ffyrdd ar hyd yr A44 rhwng Llangurig ac Aberystwyth, rhagor o waith i drwsio ac atgyweirio ffyrdd Talerddig, a gwaith ar yr A458 rhwng y Trallwng ac Amwythig lle bu gwrthdrawiad angheuol ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.