Mae hanner gweithwyr bad achub Pwllheli yn dweud eu bod nhw’n fodlon dychwelyd i’r orsaf oedd wedi’i chau yn dilyn ffraeo mewnol difrifol.

Bu i rai aelodau o staff yr orsaf ymddiswyddo tua phythefnos yn ôl oherwydd y “methiant difrifol” yn y perthnasau yno.

Arweiniodd hyn at gau’r safle dros dro, a bu’n rhaid i fadau achub cyfagos wasanaethu’r ardal.

Fodd bynnag, mae Ryan Jennings, Arweinydd Achub Bywyd Rhanbarthol yr RNLI, yn “hyderus” bellach y bydd modd cynnal yr orsaf am flynyddoedd i ddod.

Daw hyn wedi i’r orsaf groesawu rhai aelodau o staff yn ôl yn dilyn trafodaethau “hynod o bositif” gyda chyn-aelodau.

Hyd yma, mae 19 aelod wedi dychwelyd, ond mae Ryan Jennings yn gobeithio gallu denu rhagor o wirfoddolwyr o’r gymuned.

“Rwy’n hyderus y byddwn yn gallu symud ymlaen i ddarparu gorsaf bad achub gynhwysol a chynaliadwy ym Mhwllheli am flynyddoedd lawer,” meddai.

“Cefnogaeth lawn” i wirfoddolwyr

Mae Ryan Jennings yn diolch i’r rheiny sydd wedi cytuno i ddod yn ôl i weithio yn yr orsaf.

“Mae’r criw rŵan yn awyddus i edrych tua’r dyfodol ac am ail-ganolbwyntio ar eu hymdrechion i ailgychwyn y gwasanaeth bad achub,” meddai.

“Fe fyddwn yn sicrhau bod y criw yn dychwelyd i hyfforddi yn fuan ac rydyn ni am sicrhau y bydd y bad achub dosbarth-D yn weithredol mor fuan ag sy’n bosib.

“Rydym yn galw ar y gymuned i gefnogi’r orsaf bad achub ac i’n helpu i symud ymlaen.”

Ychwanega fod sawl cyfle i wirfoddoli yn yr orsaf, a bod “hyfforddiant a chefnogaeth lawn” ar gael ar gyfer rheiny sy’n awyddus i ymuno a’r criw.