Mewn hysbyseb ar gyfer darn newydd o arian, mae’r cyflwynydd Michael Buerk yn dweud ei bod hi’n “ymddangos bod Charles wedi dofi’r Ddraig”.

Mae’r darn wedi cael ei gomisiynu i nodi 500 diwrnod ers i Charles ddod yn Frenin Lloegr, ac mae’n darlunio chwedl San Siôr a’r Ddraig, sydd wedi bod yn gysylltiedig â darnau arian ers dros 200 mlynedd.

Ond yn ôl yr hysbyseb, “dyma’r tro cyntaf i frenin neu frenhines ymddangos yn lle San Siôr”.

“Yn y dehongliad modern hwn, yn hytrach na gwaredu’r Ddraig, mae’r Brenin Charles fel pe bai wedi ei dofi,” medd Michael Buerk.

Y chwedl

Yn ôl y chwedl am San Siôr a’r Ddraig, cyrhaeddodd Siôr bentref lle’r oedd y Ddraig yn aflonyddu pobol leol.

Er mwyn tawelu’r Ddraig, dechreuodd pentrefwyr aberthu un ddafad bob dydd a’i rhoi’n fwyd i’r creadur hyd nes nad oedd yr un ddafad ar ôl.

Cyhoeddodd y brenin wedyn fod yn rhaid aberthu plant er mwyn cadw’r Ddraig draw.

Dros y blynyddoedd, daeth y chwedl yn symbol o oruchafiaeth Lloegr dros Gymru.

Y darn arian

Yn ôl gwefan Hatton’s of London, sy’n hysbysebu’r darn arian newydd, mae’r chwedl “yn cydio yn y dychymyg hyd heddiw”.

Does yna’r “un dyluniad mor arloesol â’r dyluniad newydd gan yr artist darnau arian arobryn Jody Clark”, medd y cwmni.

“Drwy osod y Ddraig a’r Brenin ochr yn ochr mewn proffil a rhoi’r un amlygrwydd i’r ddau, mae’n awgrymu bod modd dofi’r bwystfil chwedlonol yn hytrach na gorfod ei alltudio – syniad sydd yn agosach fyth at frenhiniaeth fodern Charles.

Mae’r darn arian wedi’i gymeradwyo gan y Swyddfa Dramor a Phalas Buckingham.

Dim ond 5,999 o ddarnau – sy’n costio £69 – sydd wedi’u creu, ac maen nhw ar gael tan Fai 31 cyn cael eu toddi, a fyddan nhw ddim ar gael i’w prynu’n swyddogol wedyn.

Ar ôl Ebrill 30, bydd y pris yn codi i £149, a dim ond un darn fydd modd i bob aelwyd ei brynu, medd y wefan.