Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru’n galw am ddatganoli’r Gwasanaeth Prawf a chyfiawnder ieuenctid “er mwyn gweithredu cyfiawnder yn well”.

Daw sylwadau Mick Antoniw ar ôl i academyddion o brifysgolion Cymru, ynghyd â swyddogion prawf, gyhoeddi adroddiad sy’n ystyried datblygu Gwasanaeth Prawf datganoledig i Gymru, ac ar ôl i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyhoeddi adroddiad oedd hefyd yn argymell ei ddatganoli.

Roedd academyddion o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe wedi cyfrannu at yr adroddiad, gan amlinellu tystiolaeth a nodi ffyrdd o weithio tuag at wasanaeth prawf datganoledig.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi pwyslais ar y berthynas rhwng y Gwasanaeth Prawf a’r rheiny mae’n eu gwasanaethu, ymyrraeth ar sail tystiolaeth, adnoddau lleol a phartneriaethau, ynghyd â rôl y gymuned a dedfrydau cymunedol er mwyn adfer y rhai sydd wedi troseddu a chadw dioddefwyr yn ddiogel.

Dywed yr academyddion y byddai gweithredu’r Gwasanaeth Prawf mewn modd mwy effeithlon yn gallu cadw costau i lawr, lleihau nifer y troseddau a throseddwyr, a chadw cymunedau’n fwy diogel.

Mae’r academyddion hefyd yn awyddus i gyfrannu at gynlluniau polisi cyfiawnder Llywodraeth Cymru, ar ôl i Gomisiwn Thomas ganfod nad yw’r system gyfiawnder bresennol yn gweithio er lles pobol Cymru.

“Mae hyn i gyd yn fater o ddatganoli’r Gwasanaeth Prawf a Chyfiawnder Ieuenctid er mwyn gweithredu cyfiawnder yn well, yn ei hanfod,” meddai Mick Antoniw.

“All e ddim cael ei weithredu o dan y system ganolog fethedig bresennol.”