Mae protestwyr wedi ymgynnull yn Nulyn i ddangos eu dicter yn sgil oedi cyn gweithredu ar yr argyfwng tai yn y Gaeltacht, sef cadarnle’r iaith Wyddeleg.
Cafodd y brotest ei threfnu gan Meitheal Náisiúnta Pleanála Teanga, a chafodd hi gefnogaeth grwpiau Gwyddeleg a’r Gaeltacht.
Daw’r brotest wrth i Bwyllgor Tai, Llywodraeth Leol a Threftadaeth Iwerddon ddechrau trafod gwelliannau i’r Bil Cynllunio a Datblygu.
Mae’r protestwyr yn anelu i ddangos gwendidau’r Bil fel ag y mae ar hyn o bryd.
“Cynyddol anodd” cael caniatâd cynllunio’n lleol
Yn ôl Dónall Ó Cnáimhsí, llefarydd ar ran Meitheal Náisiúnta Pleanála Teanga, mae’n dod yn “gynyddol anodd” cael caniatâd cynllunio fel bod modd i bobol aros yn yr ardaloedd lle cawson nhw eu magu.
“O Port Láirge (Waterford) yn y de-ddwyrain i Dhún na nGall (Donegal) yn y gogledd-orllewin, mae’n dod yn gynyddol anodd i bobol yn y Gaeltacht gael caniatâd cynllunio yn eu hardaloedd eu hunain,” meddai.
“Mae caniatâd cynllunio’n cael ei wrthod i bobol ar y sail nad oes ganddyn nhw ‘angen lleol’, yn ôl cynghorau lleol, ac mae’r diffiniad o’r hyn yw ‘angen lleol’ yn mynd yn fwy cul ac yn crebachu.
“Mae hyn yn golygu na all cyplau ifainc gael caniatâd cynllunio yn eu hardaloedd lleol eu hunain.
“Ymhellach, mae hyn yn groes i bolisi’r Llywodraeth mewn perthynas â chynllunio ieithyddol, fel sydd wedi’i amlinellu yn Neddf y Gaeltacht 2012.
“Os nad yw pobol yn y Gaeltacht yn gallu byw lle cawson nhw eu magu, beth yw diben siarad am gynllunio ieithyddol?”
“Dim cyd-destun” wrth i’r Bil fynd rhagddo
Yn ôl Róisín Ní Chinnéide, llefarydd ar ran Meitheal Náisiúnta Pleanála Teanga, aeth dwy flynedd heibio ers i Darragh O’Brien, y Gweinidog Tai, ymrwymo i gyhoeddi Canllawiau Cynllunio’r Gaeltacht.
“Ddwy flynedd yn ddiweddarach, a does dim golwg o’r canllawiau, ac rydyn ni bellach yn y sefyllfa lle rydyn ni heb y cyd-destun hanfodol hwn ar gyfer un o’r biliau cynllunio pwysicaf yn hanes y wladwriaeth sy’n mynd drwy Dai’r Oireachtas,” meddai.
“Rydyn ni wedi blino wrth aros am weinidogion, rydyn ni wedi blino wrth aros am wireddu addewidion, ac rydyn ni wedi blino yn sgil diffyg gweithredu.
“Rydyn ni wedi rhoi neges glir heddiw fod rhaid i’r Gaeltacht fod yn ganolog i’r Bil hwn, a byddwn ni’n lleisio barn yn groch hyd nes bod argyfwng tai’r Gaeltacht yn cael ei ddatrys.”