Mae o leiaf 20 o bobl wedi cael eu lladd mewn ymosodiad gan ddynion arfog ar brifysgol ym Mhacistan.

Bu’r heddlu a swyddogion y fyddin yn tanio gynnau at yr ymosodwyr a chafodd nifer o ffrwydradau eu clywed o safle Prifysgol  Bacha Khan yn nhref Charsadda, tua 20 milltir o Peshawar.

Mae gorsafoedd teledu ym Mhacistan yn dangos presenoldeb milwrol yn y brifysgol, gyda milwyr yn rhuthro i mewn i’r adeilad a phobl yn ffoi. Mae ambiwlansys wedi bod yn cludo’r rhai sydd wedi’u hanafu i’r ysbyty.

Yn ôl swyddogion milwrol ym Mhacistan, mae’r ymosodwyr wedi cael eu harestio ac mae pedwar wedi’u lladd.

Dywedodd swyddog yr heddlu Tariq Khan bod yr ymosodiad wedi dechrau yn fuan ar ôl i’r brifysgol agor bore ma.

Mae’r Taliban ym Mhacistan wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.