Mae un o Bwyllgorau’r Cynulliad wedi rhybuddio fod “amrywiaeth sylweddol yn rhanbarthol” ym mherfformiad gwasanaeth Ambiwlansys ledled Cymru.

Mae adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn amlygu fod 68.7% o alwadau brys wedi’u hateb o fewn 8 munud ym mis Hydref y llynedd.

Ond, mae’r ffigurau yn dangos fod 73.4% o’r galwadau wedi’u hateb o fewn 8 munud gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr – ond dim ond 57.6% o alwadau a atebwyd o fewn yr amser hynny gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Er hyn, maen nhw’n cydnabod y cynnydd yng ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, ond yn mynegi fod eto lle i wella.

 

Argymhellion

 

Mae’r pwyllgor wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething yn mynegi eu hargymhellion.

Un o’r rheiny yw sicrhau bod mwy o ddata cynhwysfawr yn cael eu cyhoeddi yn fisol yn hytrach na chwarterol, gan ryddhau ffigurau fesul awdurdod lleol.

Fe wnaethon nhw hefyd fynegi pryderon am faterion staffio ac amseroedd trosglwyddo cleifion mewn ysbytai.

“Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r cynnydd mawr a wnaed mewn nifer o feysydd ers mis Mawrth 2015, gan gynnwys yr uwch arweinyddiaeth, defnyddio ambiwlansys yn fwy effeithiol, a chyflwyno model ymateb clinigol newydd,” meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Ond, mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen cynnydd pellach, yn enwedig o ran cyhoeddi data perfformiad, datrys materion staffio ac adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud i amrywio llwybrau cleifion.”

‘Croesawu’r Model Ymateb’

Fe wnaeth y pwyllgor groesawu’r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r model ymateb sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd.

Bwriad y model yw categoreiddio galwadau 999 yn ôl coch, oren a gwyrdd:

  • Coch: bygythiad uniongyrchol i fywyd, gyda tharged o 65% o ymatebion brys yn cyrraedd o fewn 8 munud.
  • Oren: difrifol, ond nid oes bygythiad uniongyrchol i fywyd.
  • Gwyrdd: difrys (yn aml yn cael eu rheoli gan wasanaethau iechyd eraill) gydag asesiad clinigol dros y ffôn.