Donald Trump
Mae ymgyrch y gwleidydd dadleuol, Donald Trump i gael ei ddewis fel ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn y ras am arlywyddiaeth America wedi cael hwb ar ôl i ffigwr amlwg yn y blaid roi ei chefnogaeth iddo.

Roedd cyn-lywodraethwr Alaska, Sarah Palin, wedi datgan ei chefnogaeth iddo mewn rali ym Mhrifysgol Iowa neithiwr.

Dywedodd na fyddai America yn gorfod ymddiheuro rhagor am gael Donald Trump fel arlywydd y wlad.

“Dim rhagor o droedio’n ofalus,” meddai, gan ychwanegu y byddai’r biliwnydd yn gadael i’r fyddin  ‘wneud ei swydd a dinistrio IS’.

 

Pluen yn het Trump

Mae ei chymeradwyaeth ohono yn cael ei weld fel pluen yn het Donald Trump, wrth i bobol yn Iowa ddechrau pleidleisio dros eu hymgeisydd mewn llai na phythefnos.

Dywedodd y gwleidydd ei fod yn “fraint” cael cefnogaeth Sarah Palin, a oedd wedi cael ei phenodi’n ddirprwy i John McCain yn ei ymgyrch i gyrraedd y Tŷ Gwyn yn erbyn Barack Obama yn 2008.

“Mae’n ffrind, yn berson da ac mae gennyf lawer o barch tuag ati. Rwy’n falch o gael ei chefnogaeth,” meddai Trump.

Mae Sarah Palin yn cael ei hadnabod fel un o’r ffigurau mwyaf di-flewyn-ar-dafod o fewn y blaid.

Mae bellach yn sylwebydd ar Fox News TV ar ôl ymddeol o’i rôl fel llywodraethwr Alaska y llynedd.