Cafwyd cyfarfod ‘calonogol’ rhwng darlledwyr annibynnol yng Nghymru a’r Pwyllgor Materion Cymreig yng Nghaernarfon, yn ôl un a fu’n rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor.
Cynhaliwyd y cyfarfod ddydd Llun fel rhan o’r ymchwiliad i’r diwydiant darlledu yng Nghymru, ac mae Gareth Williams o gwmni Rondo yn ffyddiog bod yr Aelodau Seneddol wedi clywed beth oedd gan y darlledwyr i’w ddweud.
“Roedd e’n arbennig o dda bod e’n cael ei gynnal yng Nghaernarfon, ac yn fuddiol iawn iddyn nhw gwrdd â’r pedwar ohonon ni oedd yn rhoi tystiolaeth,” meddai Gareth Williams wrth golwg360.
Y pedwar arall fu’n rhan o’r trafodaethau oedd Iestyn Garlick, cadeirydd TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) ag Antena, Dylan Huws o Cwmni Da, a Nia Thomas ar ran Boom Cymru.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i drafod y toriadau arfaethedig i gyllid S4C, sydd wedi gweld toriad o 35% yn ei chyllideb ers 2010. £67 miliwn oedd y sianel wedi gwario ar raglenni yn 2013 o gymharu â £87 miliwn yn 2009.
“Bydd unrhyw doriadau pellach nawr yn mynd i effeithio’n ddirfawr ar gwmnïau sy’n cynhyrchu ar hyn o bryd a chwmnïau’r dyfodol,” rhybuddiodd Gareth Williams.
“Bydd yn gallu cael effaith ar gyrhaeddiad a gallu gwasanaethau i hyrwyddo a marchnata eu cynnyrch yn effeithiol, ond rydym hefyd yn edrych yn bositif ar sut mae cwmnïau wedi gallu ehangu eu gorwelion a chynhyrchu rhaglenni ar y cyd.”
Ceisio sicrhau nad yw’r arbedion yn effeithio ar ansawdd
Ac fe eglurodd hefyd sut y gall gynhyrchu rhaglenni newydd fod yn her i gwmnïau annibynnol, gyda rhaglenni drama yn enwedig yn dioddef.
“Mae pris yr awr ar gyfer drama ar S4C wedi gostwng o oddeutu £200,000 yn 2009 i dan £140,000 erbyn hyn, mae hwnna’n doriad sylweddol iawn, ac mae’r cwmnïau yn gwneud popeth maen nhw’n gallu i wneud yn siŵr bod yr arbedion ddim yn effeithio’n ormodol ar beth sydd ar y sgrin.”
Roedd y sesiwn yn gyfle, yn ôl Gareth Williams, i ddangos sut roedd y toriadau wedi cael effaith benodol ar y diwydiant a gallu busnesau i fuddsoddi yn y tymor hir, a bod “hynny’n gwbl ddibynnol ar ffyniant y sector yng Nghymru.”
“Mae S4C wedi bod yn alluogwr mawr i’r sector annibynnol yng Nghymru achos ei bod wedi comisiynu cymaint o’i chynnyrch hi o’r sector annibynnol.”
Dirywiad teledu Saesneg ei hiaith
Roedd y cyfarfod hefyd yn trafod teledu Saesneg yng Nghymru a lefelau cyllido Radio Cymru a Radio Wales a’r pwysigrwydd o ystyried hynny hefyd yn adolygiad siarter y BBC, meddai Gareth Williams.
Yn ôl adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig ar ddiwedd 2015, mae’r BBC yn gwario 25% yn llai ar raglenni i Gymru yn Saesneg o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.
Ac er i wasanaeth ITV yn yr Alban, STV gynyddu ei allbwn ar y teledu, mae ITV Cymru wedi ei leihau, gan ddangos 90 munud yn unig o raglenni Saesneg am Gymru yr wythnos, yn ogystal â’i allbwn newyddion.