Elin Jones AC Plaid Cymru dros Geredigion
Fe fydd rhai o gyhoeddwyr ac awduron Cymru yn cynnal cyfarfod briffio yn y Senedd heddiw i fynegi’u pryderon am y toriad o 10.6% i gyllideb y Cyngor Llyfrau.
Fe fydd y cyfarfod yn digwydd rhwng sesiynau ffurfiol y Cynulliad, lle bydd awduron, gan gynnwys Jon Gower a Tony Bianchi, ynghyd â chynrychiolwyr o weisg Cymru, yn cyflwyno’u pryderon gerbron yr Aelodau Cynulliad.
“Mae’n gyfle i ddwyn y dadleuon yma gerbron y Llywodraeth,” meddai Elin Jones AC Plaid Cymru yng Ngheredigion, ac un sydd wedi galw am y cyfarfod.
‘Uno’n frwd’
“Mae’r toriad o fwy na 10% i’r sector gyhoeddi yn doriad sydd gymaint yn fwy na gweddill y sector gelfyddydol,” meddai Elin Jones wrth golwg360.
“Mae nifer yn meddwl fod hyn yn annheg, ac yn peryglu’r cynnydd da sydd wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf wrth ymestyn ystod ac amrywiaeth y llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg.”
Fe ddywedodd mai dyma’r tro cyntaf iddi weld cyhoeddwyr ac awduron yn dod at ei gilydd mor frwd i ymgyrchu dros newid. Ddoe, fe anfonwyd llythyr gyda bron 300 o lofnodion gan awduron ac ysgolheigion Cymraeg at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryderon am y toriadau. Roedd llythyr â 200 o lofnodion ar ran awduron Saesneg Cymru eisoes wedi’i anfon.
“Mae’n dda gweld y sector yn uno, y rhai sy’n gweithio yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, er mwyn amddiffyn dyfodol llyfrau yn y ddwy iaith,” meddai Elin Jones.
‘Sgil effaith anffodus’
“Fe fyddwn ni eisiau darbwyllo’r Llywodraeth i newid y setliad ariannol i’r Cyngor Llyfrau, ac i leihau’r toriad,” meddai Elin Jones cyn ychwanegu y bydd yn cyflwyno hynny mewn sesiwn ffurfiol yn y Cynulliad yn ystod y prynhawn hefyd.
Fel Aelod Cynulliad dros Geredigion, esboniodd fod nifer o gyhoeddwyr ac argraffwyr yn ddibynnol ar y sector gyhoeddi o fewn y sir.
“Mae cwmnïau cyhoeddi ac argraffu yn mynd i gael eu heffeithio’n uniongyrchol gyda chwtogiad o’r math yma, felly mae yna sgil effaith anffodus i’r busnesau hynny a’r economi. Mae nifer ohonyn nhw mewn ardaloedd gwledig lle mae’r economi eisoes yn fregus,” esboniodd.
“Felly, mae angen sicrhau dyfodol llewyrchus i’r busnesau yma, llawn cyn bwysiced ag yw sicrhau dyfodol llewyrchus i awduron a darllenwyr llyfrau newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg.”