Mae bron i 300 o bobol wedi llofnodi llythyr sy’n cael ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru heddiw yn mynegi’u pryder am doriadau i gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru.
Mae’r llythyr, a luniwyd gan Angharad Price o Brifysgol Bangor, yn nodi fod y toriadau yn “anghymesur, yn annheg ac yn annerbyniol,” wrth i’r Cyngor Llyfrau wynebu toriad o 10.6% yn eu cyllideb.
Mae’r llythyr hefyd yn nodi y bydd yn “cael effaith niweidiol ar gyhoeddi llyfrau yn y ddwy iaith yng Nghymru, ond bydd yr effaith ar gyhoeddi Cymraeg, yn benodol, yn gwbl andwyol.”
Fe fydd llythyr arall, gyda mwy na 200 o lofnodion, hefyd yn cael ei anfon at y Llywodraeth heddiw a hynny ar ran awduron Saesneg Cymru.
‘Ymateb syfrdanol’
Fe ddywedodd Angharad Price fod yr ymateb wedi bod yn syfrdanol, gyda nifer o awduron ac ysgolheigion yn llofnodi’r llythyr.
“Mewn mater o ddeuddydd, cysylltodd bron i 300 o bobol sy’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru i ddweud eu bod yn dymuno llofnodi. A dw i’n credu y byddai’r ffigwr hwn wedi bod yn llawer uwch, petai amser heb fynd yn drech na ni,” meddai.
“Mae’n adlewyrchiad o’r pryder eang sydd yna ymhlith awduron a darllenwyr Cymraeg. Mi fydd yn effeithio ar brofiadau darllen plant, pobol ifanc ac oedolion o bob cefndir ac oedran.”
Fe eglurodd fod darllenwyr Cymraeg o’r tu allan i Gymru yn poeni hefyd.
“Dw i wedi cael rhai o Batagonia, Moscow, yr Almaen ac o Brifysgol Harvard yn America yn gofyn am gael llofnodi’r llythyr. Mae’n amser anodd ar bawb yn ariannol, ond mae pawb yn teimlo bod cwtogiad o bron i 11% mewn blwyddyn yn annerbyniol.”
Lobïo yn erbyn y toriadau
Mewn datganiad ddoe, fe fynegodd Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M Wynn Thomas y gallai’r toriad hwn arwain at leihad yn nifer y llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru, ynghyd ag effeithio cyrhaeddiad llyfrau o Gymru.
Fe ddywedodd y bydden nhw’n parhau i chwilio am ffynonellau ariannol eraill.
Yn y cyfamser, fe fydd rhai o gyhoeddwyr llyfrau Cymru yn cyfarfod â gwleidyddion yn y Senedd yfory i lobïo yn erbyn y toriadau arfaethedig.
Mae’r cyfarfod wedi’i drefnu gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru, ac fe fydd awduron fel Jon Gower a Tony Bianchi, yn ogystal â chyhoeddwyr Y Lolfa a Gwasg Gomer, yn cymryd rhan.