Mae papur newydd y Sydney Morning Herald yn Awstralia wedi ymddiheuro am eu hagweddau hiliol wrth adrodd stori cyflafan yn 1838.
Cafodd o leiaf 28 o Aborijiniaid – menywod a phlant yn bennaf – eu llofruddio yn nhref Myall Creek yn nhalaith New South Wales, y tro cyntaf – a’r unig dro – i wladychwyr gael eu herlyn am ladd brodorion y wlad.
Yn ôl y papur newydd, roedden nhw’n gyfrifol am hybu safbwyntiau hiliol a lledaenu camwybodaeth yn ystod eu hymgyrch i sicrhau na fyddai’r gwladychwyr yn cael eu herlyn am eu troseddau.
Fe wnaeth y papur newydd wrthwynebu’r ddedfryd o farwolaeth gafodd saith allan o ddeuddeg o bobol mewn perthynas â’r digwyddiad, ac maen nhw bellach yn dweud bod hyn wedi digwydd am fod gan y troseddwyr groen gwyn a bod gan y rhai gafodd eu llofruddio groen du.
Maen nhw’n cyfaddef iddyn nhw “fethu’n ofnadwy” wrth adrodd y stori ar y pryd, ac maen nhw wedi ymddiheuro am erthyglau eraill o’r gorffennol oedd yn annog pobol i ladd brodorion pe baen nhw “dan fygythiad” ac yn clodfori’r troseddwyr.
Maen nhw hefyd yn cydnabod nad oedd eu herthyglau’n dilyn yr un trywydd ag erthyglau mewn papurau eraill.
Daw’r ymddiheuriad 185 mlynedd, namyn diwrnod, ers digwyddiadau Myall Creek.