Mae Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu’r amseroedd aros ar gyfer triniaethau canser yng Nghymru.
Daw ei sylwadau yn dilyn pryderon Coleg Brenhinol y Radiolegwyr fod pedair cenedl y Deyrnas Unedig yn wynebu diffyg staff ac, o ganlyniad, amseroedd aros hir.
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru eleni, does dim un o fyrddau iechyd Cymru wedi bwrw’r targed o weld 75% o gleifion yn cychwyn triniaeth o fewn y 62 diwrnod cyntaf ar ôl amau canser ers 2020.
Mae data’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dangos mai’r Alban sydd â’r gyfradd uchaf o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed, sef 72%.
61% yw’r ffigwr yn Lloegr, 55% yng Nghymru, a 37% yng Ngogledd Iwerddon.
‘Gwrthwynebu toriadau’
“Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol yng Nghymru ers 25 mlynedd, ac mae gennym ni’r gyfran isaf yn dechrau triniaeth canser o fewn yr amser targed o ddau fis ym Mhrydain, sef 55% yn unig,” meddai Russell George.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yn gyflym i ddyrannu symiau enfawr ar gyfer mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd pan maen nhw’n dweud bod llwyth gwaith yn uchel, ond maen nhw wedi bod yn hynod o araf wrth weithredu pan fo’n amlwg bod ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn brin o staff.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am flaenoriaethu gweithlu cynhwysfawr a chynllun recriwtio ac yn gwrthwynebu toriadau termau real Llafur i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr unig lywodraeth yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny erioed – nid unwaith, ond ddwywaith.”
Yn ôl Coleg Brenhinol y Radiolegwyr, mae’r risg o farwolaeth yn cynyddu gan 10% bob mis wrth aros am driniaeth.
‘Buddsoddi’n helaeth’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod bron i 11,500 o bobol wedi cael eu hysbysu nad oedd ganddyn nhw ganser ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.
Golyga hyn eu bod nhw wedi cael eu hisraddio oddi ar y llwybr triniaeth canser er mwyn blaenoriaethu achosion eraill.
“Rydym yn parhau i flaenoriaethu’r achosion mwyaf brys a all olygu blaenoriaethu llawer o bobl sydd eisoes wedi bod yn aros dros y targed canser o 62 diwrnod,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau canser i gynyddu ataliaeth a chanfod yn gynnar a darparu mynediad cyflym i ymchwiliadau, triniaeth a gofal canser o ansawdd uchel.
“Yn ddiweddar, cyhoeddom £86 miliwn ar gyfer cyfleusterau diagnostig a thriniaeth canser newydd ac rydym yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer arbenigwyr mewn diagnosis canser, triniaeth a gofal lliniarol.”