Mae Senedd Catalwnia wedi symud y Llefarydd Laura Borràs o’i swydd ar ôl i lys ei chael yn euog o lygredd ariannol.

Cafodd ei dedfrydu’n ddiweddar i bedair blynedd a hanner o garchar am helpu ffrind i sicrhau cytundebau gwerthfawr mewn swydd flaenorol, ac mae hi hefyd wedi’i gwahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus am 13 o flynyddoedd.

Neithiwr (nos Iau, Mehefin 1), daeth penderfyniad y Siambr ar ôl i’r Goruchaf Lys wrthod apêl y swyddfa seneddol yn erbyn ymgais y bwrdd etholiadol i ddileu eu statws fel aelod seneddol.

Mae disgwyl i sesiwn gael ei chynnal ar Fehefin 9 i ddewis Llefarydd newydd, pan fydd aelodau seneddol yn ysgrifennu enw ar ddarn o bapur, a’r papurau’n cael eu cyfri wedyn.

Pe na bai enillydd clir, bydd ail bleidlais yn cael ei chynnal rhwng y ddau ymgeisydd mwyaf poblogaidd.

Pe bai angen pedwaredd pleidlais a bod y canlyniad yn dal yn gyfartal, yr aelod seneddol o’r grŵp sydd â’r nifer fwyaf o seddi yn y senedd fydd yn cael eu hethol yn Llefarydd.

Ychydig iawn o unigolion bleidleisiodd yn erbyn y penderfyniad i symud Laura Borràs o’i sedd.

Mae plaid Esquerra Republicana eisoes yn dweud y byddan nhw’n cefnogi ymgeisydd Junts per Catalunya fel rhan o gytundeb y llywodraeth glymblaid fis Hydref y llynedd pan adawodd Junts y Cabinet.

Arweinydd Ciudadanos yn cefnu ar wleidyddiaeth

Yn y cyfamser, mae Inés Arrimadas, arweinydd plaid Ciudadanos, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y byd gwleidyddol.

Daw ei phenderfyniad yn dilyn canlyniadau siomedig ei phlaid yn yr etholiadau diweddar.

Roedd hi’n llywydd y blaid rhwng 2020 a 2023, ac yn aelod seneddol yng Nghyngres Sbaen.

Roedd hi’n arweinydd yr wrthblaid rhwng 2015 a 2019, y cyfnod sy’n cwmpasu refferendwm annibyniaeth 2017 pan enillodd hi’r etholiad, ond doedd hi ddim wedi gallu ffurfio llywodraeth gan fod y pleidiau o blaid annibyniaeth wedi cefnogi Quim Torra i ddod yn arlywydd.

Dechreuodd tranc plaid Ciudadanos yn 2019 pan enillon nhw ddeg sedd yn unig, 47 yn llai na’r adeg pan oedden nhw yn eu hanterth.

Pan gamodd Albert Rivera o’r neilltu, daeth Arrimadas yn arweinydd ond doedd y blaid ddim wedi gallu atal eu tranc.

Yn 2021, gostyngodd nifer seddi’r blaid o 36 i chwech, ac fe gollon nhw 229 o’r 239 sedd gyngor oedd ganddyn nhw yr wythnos ddiwethaf.

Bydd etholiad cyffredinol yn Sbaen ar Orffennaf 23, ond fydd Ciudadanos ddim yn cyflwyno ymgeiswyr.