Mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ysgrifennu at berchennog gwesty yn y sir yn galw arno i “ddatgelu’r gwir” am y bwriad i roi cartref yno i geiswyr lloches.

Yn ôl adroddiadau, gallai Sterling Woodrow, perchnogion Gwesty Parc y Strade, gynnig lle i hyd at 300 o geiswyr lloches.

Yn dilyn cyfarfod rhwng swyddogion y Cyngor Sir a’r Swyddfa Gartref ddechrau’r wythnos hon, mae Darren Price yn annog y sir i roi ateb gonest i bobol Llanelli ynghylch a ydyn nhw mewn trafodaethau.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, roedd y Gweinidog Mewnfudo yn San Steffan wedi cytuno i ddefnyddio’r gwesty yn Llanelli, yn amodol ar gytundeb rhwng y perchnogion a Clearsprings, y gweithredwr sy’n gweithio ar ran y Swyddfa Gartref i gynnal safleoedd i geiswyr lloches.

Er mwyn gallu symud i gontract gyda pherchnogion y gwesty (ar gyfer lleoli ceiswyr lloches), mae’r Cyngor Sir yn deall bod gan Clearsprings ystod o asesiadau a gwaith sydd eto i’w gwblhau, gan gynnwys asesiad risg tân.

Bwriad Clearsprings yw i’r safle gael ei ddefnyddio ar gyfer 207 o geiswyr lloches a hyd at 107 o leoedd brys wrth gefn mewn ardaloedd cyfagos.

Dydy’r Cyngor Sir ddim wedi derbyn y wybodaeth hon yn ysgrifenedig eto, er eu bod nhw wedi gofyn “sawl gwaith”, medden nhw.

Mae Partneriaid Sector Cyhoeddus hefyd wedi codi pryderon ynghylch gwasanaethau iechyd, ac wedi cael eu cynghori mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fyddai rhoi cyllid ychwanegol ar gyfer hyn.

“Mae’r Cyngor yn anghytuno’n gryf â’r bwriad hwn yng Ngwesty Parc y Strade, ac yn archwilio ystod o lwybrau cyfreithiol, gan gynnwys cynllunio, i berswadio’r Swyddfa Gartref a pherchnogion y gwesty bod natur y safle hwn yn anaddas at y diben hwn,” meddai llefarydd.

‘Mynnu atebion’

Mae Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, yn dweud ei fod e wedi “mynnu atebion” ynghylch y sefyllfa, gan ei fod yn gofidio am effaith y cynlluniau ar y gymuned leol.

Dywed fod y gwesty’n cael ei ddefnyddio i wasanaethu’r gymuned a’r diwydiant twristiaeth.

“Mae’n bryd i berchennog Gwesty Parc y Strade, Sterling Woodrow, ddatgelu’r gwir ynghylch y trafodaethau gyda’r Swyddfa Gartref,” meddai.

“Rwy’ wedi ysgrifennu atyn nhw’n mynnu atebion am y defnydd o’r gwesty yn y dyfodol, gan fod angen atebion ar gymuned leol Ffwrnes a Llanelli, yn ogystal â staff y gwesty, Cyngor Sir Caerfyrddin a’n hystod o bartneriaid.

“Dim ond yr wythnos hon fe wnaeth y Swyddfa Gartref, unwaith eto, ailadrodd ei bwriad i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade fel safle i letya dros 300 o geiswyr lloches.

“Rhaid i berchennog y gwesty, Sterling Woodrow, fod yn agored ac yn onest nawr gyda phobol Sir Gâr; a ydyn nhw mewn trafodaethau â’r Swyddfa Gartref neu beidio, ac os felly, a ydyn nhw’n bwriadu bwrw ymlaen i grynhoi nifer fawr o geiswyr lloches yn y gwesty?

“Mae rôl bwysig gan Westy Parc y Strade yn ein sir fel lleoliad sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan bobol leol ar gyfer digwyddiadau fel priodasau, cynadleddau a digwyddiadau cymdeithasol.

“Mae hefyd yn boblogaidd gyda thwristiaid ac ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin.

“Mae’r gwesty wedi cael cefnogaeth sylweddol gan y gymuned leol dros y blynyddoedd, ac felly mae ond yn iawn eu bod nhw’n onest gyda’r gymuned leol.

“Fel awdurdod lleol, rydym ni am allu gweithio gyda’r gwesty i annog a datblygu twristiaeth a thwf yn yr ardal.

“Mae’r wythnosau diwethaf wedi siomi’r gymuned leol yn fawr, ac mae priodasau wedi cael eu canslo oherwydd yr ansicrwydd.

“Mae’r holl beth yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl yn yr ardal.

“Dyw hi ddim yn deg ar gyplau sy’n edrych ymlaen at eu diwrnod priodas, ar y gymuned leol, nac ychwaith staff y gwesty.

“Mae cyfle gan berchnogion y gwesty i roi stop ar hyn i gyd drwy ddweud wrth y Swyddfa Gartref nad yw nhw am fwrw ymlaen, ac rwy’n eu hannog nhw i wneud yr union beth hynny.

“Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin a’i bartneriaid yn y sector cyhoeddus yn ceisio perswadio’r Swyddfa Gartref i beidio â bwrw ymlaen â’r bwriad i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade, Llanelli at y diben o ddarparu llety wrth gefn ar gyfer dros 300 o geiswyr lloches.

“Y Swyddfa Gartref sy’n gwneud y penderfyniad hwn.”

Ymateb cymysg i gynlluniau i roi llety i geiswyr lloches mewn gwesty

Mae’r Swyddfa Gartref yn ystyried defnyddio Gwesty Parc y Strade yn Llanelli