Artur Mas (CCA2.0)
Fe fydd lle i Artur Mas “yn y llyfrau hanes fel arweinydd gwych”, meddai un o drigolon Barcelona wrth Golwg360 ar ôl i’r arlywydd benderfynu camu o’r neilltu er mwyn y frwydr tros annibyniaeth yng Nghatalunya.

Ni fyddai llawer o arweinwyr gwleidyddol wedi gwneud hynny, meddai Berta Gelabert Vilà, sy’n gyn-fyfyrwrwraig ym Mhrifysgol Abertawe.

Ac fe ddywedodd fod gobaith newydd bellach o dan ei olynydd, Carles Puigdemont, a gafodd ei urddo i’r swydd neithiwr.

Achub yr ymgyrch ‘Ie’

Oni bai am benderfyniad Artur Mas, roedd peryg chwalfa o fewn clymblaid y llywodraeth sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth i Gatalunya.

Ymddiswyddiad Mas oedd yr unig ffordd i dawelu plaid asgell chwith y CUP a oedd yn erbyn iddo barhau’n arweinydd – roedden nhw’n bygwth torri eu dealltwriaeth gyda’r pedair plaid yn y muidad Junts pel Si (Ynghyd tros Ie).

Fe gafodd Charles Puidgemont ei ddewis yn arweinydd a allai gadw’r glymblaid ynghyd, gan fod CUP yn credu bod Artur Mas ormod i’r dde.

‘Hapus a chrac’

“Rwy’n hapus dros ben fod y Junts pel si a’r CUP wedi dod i gytundeb o’r diwedd gan y byddai etholiad ar hyn o bryd yn amlwg wedi bod yn drychineb,” meddai Berta Gelabert Vilà wrth Golwg360.

“Mae nifer o bobol yn grac fod y CUP wedi gwrthod bod yn hyblyg ac am eu bod nhw am adael Artur Mas allan o unrhyw gytundeb posibl.

“Rwy’n grac fy hunan ac yn siomedig gan eu bod nhw wedi ymddwyn yn hunanol, heb feddwl am eu gwlad na’u pobol yn hyn o beth.”

Hollti barn

Er bod Artur Mas wedi hollti barn yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, mae Berta Gelabert Vilà yn ei ganmol am lwyddo i uno trigolion Catalunya yn y pen draw.

“Do’n i ddim yn or-hoff ohono fe ar y dechrau gan fy mod i’n arfer meddwl ei fod e’n ceisio manteisio ar y sefyllfa wleidyddol i ennill pleidleisiau.

“Ond y gwir amdani yw ei fod e wedi profi pawb yn anghywir gan ei fod e wedi gweithio’n galed yn ystod y broses hon ac wedi dod yn annibynnwr credadwy ac argyhoeddedig.

“I fi, mae ganddo fe le yn y llyfrau hanes fel arweinydd rhagorol. Mae e wedi profi ei fod e’n ddiymhongar wrth dderbyn ei fod yn cael ei adael allan o gytundeb. Fyddai dim llawer o wleidyddion wedi bod yn barod i dderbyn hynny.”

Yr arweinydd newydd

Amser a ddengys a fydd Carles Puigdemont yn deilwng o gamu i esgidiau Artur Mas, yn ôl Berta, ac mae hi’n ansicr ar hyn o bryd beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig.

“Dw i ddim yn gwybod llawer amdano fe ond roedd e’n Faer Girona, un o brif ddinasoedd Catalunya.

“Mae Girona yn un o gadarnleoedd annibyniaeth ar y cyfan, ac mae’n ymddangos ei fod yn  ffyddlon i Mas ac yn rhannu ei ddulliau a’i syniadau, felly mae’n rhaid y bydd e’n gwneud jobyn da ohoni.”

Cyfweliad: Alun Rhys Chivers