Pont Hafren
Cafodd traffig ar yr M4 dros ail bont Hafren i gyfeiriad Cymru ei atal am gyfnod prynhawn ddydd Mercher yn dilyn protest gan grŵp o Gwrdiaid.

Fe gadarnhaodd Heddlu Gwent eu bod wedi derbyn adroddiadau am tua 1.40yp fod pobl wedi ymgasglu ac yn atal llif traffig ar y bont.

Cafodd teithwyr eu dargyfeirio am gyfnod tuag at yr M48 er mwyn croesi’r Hafren dros y bont arall.

Ond mae’n traffig bellach wedi dechrau symud unwaith eto i’r ddwy gyfeiriad ar yr M4 dros y bont.

‘Twrci’

Dywedodd un teithiwr oedd wedi cael ei ddal yn y dagfa wrth orsaf radio Heart Wales bod “tua 15 i 20” o bobl yn rhan o’r gwrthdystiad.

Mae’n debyg bod y protestwyr wedi bod yn gweiddi slogannau yn gwrthwynebu Twrci ac yn chwifio baner Cwrdaidd.

Cafodd protest debyg a gaeodd y ffordd orllewinol dros bont Hafren ei chynnal gan grŵp o Gwrdiaid o Irac yn 2014.

“Cawsom adroddiadau bod nifer o bobol wedi ymgynull ar yr ail groesfan dros yr Hafren,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.

“Roedd y bont ar gau am gyfnod wrth i ni ddelio â’r sefyllfa ac fe gafodd traffig ei ddargyfeirio ar draws yr hen Bont Hafren. Mae’r ail groesfan bellach wedi ailagor i’r ddwy gyfeiriad.”