Aseel a Nasser Muthana
Clywodd llys heddiw fod jihadydd ifanc o Gaerdydd wedi ymuno â brwydr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria ar ôl cael help gan ddynion ifanc eraill o Brydain, gan gynnwys person arall o Gaerdydd.

Dim ond 17 oed oedd Aseel Muthana pan adawodd ei gartref yn y brifddinas ar 21 Chwefror 2014 i ymuno â’r grŵp brawychol, a dydy e heb ddychwelyd ers hynny.

Clywodd y llys ei fod wedi dilyn ei frawd hŷn, Nasser Muthana, a deithiodd yno gyda phedwar dyn ifanc arall o Gaerdydd dri mis ynghynt.

Roedd Nasser Muthana wedi ennyn sylw’r byd pan ymddangosodd ef a dynion ifanc eraill ar fideo propaganda IS a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2014.

Kristen Brekke o Gaerdydd, Adeel Ulhaq o Swydd Nottingham, a Forhad Rahman o Swydd Gaerloyw sydd wedi’u cyhuddo o gynllunio i helpu’r bachgen yn ei arddegau i gyrraedd y wlad, ac fe aeth y tri gerbron y llys yn yr Old Bailey heddiw.

‘Cyflawni troseddau brawychol’

“Mae’r erlyniad yn dweud bod pob un o’r tri dyn hyn sydd yn y doc, yn eu ffyrdd gwahanol, wedi helpu Aseel Muthana, y brawd iau, i deithio i Syria i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd,” meddai Annabel Darlow QC wrth y llys.

“Wrth wneud hyn, rydym yn eu cyhuddo nhw o fod wedi cyflawni troseddau brawychol.”

Clywodd y llys fod Kristen Brekke, 20, sydd wedi troi at Islam, wedi dod yn ffrind i Aseel Muthana mewn caffi hufen iâ lle oedd y ddau yn gweithio.

Mae wedi’i gyhuddo o brynu dillad cuddliw i’r bachgen ar eBay a gwneud ymchwil ar y we iddo, gan ganiatáu iddo hefyd ddefnyddio ei gyfrifiadur.

Roedd hefyd wedi gadael i Aseel Muthana storio ei eiddo yn ei dŷ yn Stryd Pentre, Grangetown, cyn iddo adael am Syria, yn ôl yr erlynydd.

Gwadu’r cyhuddiadau

Mae Forhad Rahman, 21, wedi’i gyhuddo o helpu Aseel i gael pasbort ac wedi talu am ei docyn hedfan a thocyn bws i Gatwick.

Clywodd y llys bod y trydydd dyn, Adeel Ulhaq, wedi rhoi “cyngor gwerthfawr” ar-lein gan ddangos “gwybodaeth gynhwysfawr” am y rhyfel yn Syria.

Mae’r tri yn gwadu paratoi ar gyfer gweithredoedd brawychol, ac mae Adeel Ulhaq yn gwadu ariannu brawychiaeth.