Yn ôl amcangyfrifon diweddar, gallai’r protestiadau amgylcheddol llwyddiannus dros yr wythnos ddiwethaf i atal codi ffermydd gwynt yn Norwy arwain at godi prisiau ynni, ond byddan nhw hefyd yn gwarchod tiroedd brodorol y Sami yn y wlad.

Fe wnaeth cannoedd o ymgyrchwyr amgylcheddol a brodorol, gan gynnwys Greta Thunberg, atal y brif ffordd tuag at balas brenhinol Norwy ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, wrth i brotest naw diwrnod ddod i ben.

Daw’r protestiadau yn sgil cynlluniau i godi tyrbinau gwynt ar borfeydd ceirw ffermwyr y Sami, ar ôl i’r Uchel Lys ddyfarnu yn 2021 fod y cynlluniau yng nghoedwig Fosen yn torri hawliau dynol y Sami yn ôl cyfraith ryngwladol.

Ond mae’r tyrbinau dal yn weithredol hyd heddiw.

Mae’r protestwyr wedi bod wrthi’n tarfu ar swyddfeydd llywodraeth Norwy, gan fynnu na ddylai symudiad tuag at ynni gwyrdd ddod ar draul cymunedau brodorol sy’n ceisio gwarchod eu traddodiadau, eu diwylliant a’u hiaith.

Wrth ymgynnull, fe fu’r protestwyr yn chwifio baneri’r gymuned Sami ac yn gwisgo gwisg draddodiadol y gatki.

Mae’r llywodraeth bellach wedi ymddiheuro wrth y gymuned Sami am godi’r tyrbinau ar fferm wynt arfordirol fwyaf Ewrop, gan gyfaddef fod y cynllun yn groes i hawliau dynol ond hefyd yn mynnu bod rhaid ceisio ateb i’r sefyllfa.

Mae’r gymuned yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw wedi “gorfodi’r llywodraeth i gymryd cyfrifoldeb”, yn ôl yr arlunydd ac ymgyrchydd Ella Marie Haetta Isaksen, sydd wedi’i dyfynnu yr wythnos hon gan Reuters.

Y tu hwnt i’r prosiect hwn, gallai dyfarniad y llys yn achos Fosen gael effaith ar brosiectau eraill sydd ar y gweill, wrth i fwy gael ei wneud i warchod ffermydd y Sami ac wrth i’r Sami godi eu llais dros eu hawliau yn y dyfodol.