Mae cynhyrchydd caws o Fethesda yn gobeithio manteisio ar ymwelwyr ag atyniad lleol i ledaenu’r gair am eu cynnyrch unigryw.

Mae Llaethdy Gwyn, sy’n cynhyrchu Caws Cosyn, wedi’i leoli ger ZipWorld yn Chwarel y Penrhyn ac yn cael ei redeg gan Carrie Rimes, sydd hefyd yn fam i’r cerddor gwerin Patrick Rimes.

Ddydd Gwener nesaf (Mawrth 10), fe fydd dathliad agoriadol yn y llaethdy rhwng 5yp ac 8yh, lle bydd modd mynd ar daith dywys, ymweld â stondinau cynhyrchwyr lleol a phrynu Caws Cosyn.

Yn diddanu yn y digwyddiad fydd y band gwerin VRï, triawd llinynnol sy’n chwarae cyfuniad o gerddoriaeth werin a siambr ac yn canu hefyd.

Mae’r cynhyrchwyr lleol a pherchennog y llaethdy’n gobeithio denu twristiaid i’r digwyddiad, yn ogystal â phobol leol.

Caws Cosyn

Mae Caws Cosyn yn gynaladwy, yn lleol, yn iach ac yn hawdd i’w dreulio.

“Hefyd mae wedi cael ei wneud efo llefrith dafad,” meddai Carrie Rimes wrth golwg360.

“Does dim llawer o gawsiau dafad ar gael.

“Mae’n eithaf unigryw.

“Hefyd mae heb ei basteureiddio, ac mae cyn lleied o gawsiau ar gael heb ei basteureiddio.

“Mae hynny’n golygu bod yr holl ficrôbs naturiol sy’n dod efo llefrith yn medru tyfu a chreu blas eithaf unigryw.

“Mae fel llawer o gawsiau Ffrainc, mae wedi cael ei wneud efo llefrith lleol, mae’n dod o ffermydd bach yr ardal ac mae’n helpu busnesau bach yr ardal.

“Maen nhw’n dweud fod pethau sy’n cael eu gwneud efo llefrith dafad yn eithaf iach.

“Os ydy pobol yn cael problemau efo llefrith buwch, yn aml iawn maen nhw’n gallu ymdopi efo llefrith dafad.

“Mae sawl mantais.

“Ond gobeithio mai’r prif reswm yw oherwydd bod y blas yn iawn.”

Taith o amgylch y llaethdy

Mewn lle hudolus ond yn agos at brif lôn, y gobaith yw y bydd twristiaid sydd fel arfer yn mynd heibio Bethesda’n galw draw i’r digwyddiad.

“Mae’r llaethdy yng nghanol cau,” meddai Carrie Rimes.

“Mae mewn lle cysgodol iawn efo afonydd ar y tair ochr.

“Mae afon Ogwen ar y gwaelod, mae afon Caseg wedi’i rhannu mewn dau.

“Mae coed o gwmpas.

“Mae’n lle braf iawn, yn gysgodol ond reit ar yr A5 hefyd.

“Mae pobol yn gallu cyrraedd at y llaethdy yn hawdd iawn.

“Mae drws nesaf i’r cae pel-droed.

“Wrth gwrs, rydym rownd y gornel o ZipWorld.

“Rwy’n gobeithio y byddan nhw’n gallu tynnu rhai o’r twristiaid i mewn hefyd, yn perswadio pobol sy’n dod o ZipWorld eu bod nhw’n gallu troi i’r chwith mewn i Fethesda, yn hytrach na throi i’r dde mewn i Fetws y Coed.

“Dim byd yn erbyn Betws y Coed, ond mae’n hen bryd i rai o’r bobol ddod i mewn i Fethesda i weld beth sydd ar gael.”

Cynhyrchwyr lleol

Gan gweithio ar y cyd efo Cadwyn Ogwen, bydd cynhyrchwyr y llaethdy yn y digwyddiad yr wythnos nesaf, yn ogystal â chynhyrchwyr eraill yr ardal, yn gwerthu pob math o gynnyrch.

“Mae gennym marquee tu allan efo stondinwyr lleol,” meddai Carrie Rimes wedyn.

“Bydd sawl peth yma – chowder Môr Menai, Blas Lon Las yn dod efo cawl llysiau, bydd Angharad a Neville gyda jamiau maen nhw’n gwerthu ar gyfer achosion da, mae’r Tyddyn Teg a Ffarm Pandy yn dod efo llysiau lleol.

“Gobeithio bydd Colette yma o Chwarel Goch efo cordial a lemon curd a phob math o siytni, Derw Coffi yn dod â choffi gwirod a choffi oer, ac wedyn crefftau hefyd.

“Mae Inc Pinc yn dŵad, ac o bosib y Co-op Cyflawn.”