Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi cyhoeddi cyllid newydd gwerth £2.1m dros gyfnod o dair blynedd er mwyn gwella profiadau myfyrwyr addysg bellach sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd y cyllid yn cael ei roi i bob coleg addysg bellach i’w helpu i weithredu’r Ddedd Anghenion Dysgu Ychwanegol, gyda’r arian yn cael ei roi dros dair blynedd gan gymryd lle’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) bresennol.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella profiadau addysgol ac i helpu colegau i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i fyfyrwyr drwy eu cynlluniau datblygu unigol.

Bydd hefyd yn cefnogi dull mwy cyson o ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol mewn colegau ledled Cymru, drwy eu helpu i ddatblygu partneriaethau ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, colegau eraill ac ysgolion.

Mae prosiect Camu Mlaen Coleg Ceredigion yn enghraifft o sut y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio.

Coleg Ceredigion

Yn hanesyddol, mae’r bobol ifanc â’r anghenion mwyaf cymhleth a difrifol wedi bod yn gorfod gadael eu cymuned leol i gael mynediad at addysg a hyfforddiant.

Mae Coleg Ceredigion a Chyngor Sir Ceredigion wedi cydweithio i newid hyn drwy’r prosiect Camu Mlaen, fel y gall pobol ifanc gael addysg sgiliau bywyd yn eu hardal leol erbyn hyn.

Bydd y cyllid ychwanegol sydd wedi’i gyhoeddi yn helpu’r coleg i ddatblygu’r prosiect hwn, a bydd yn creu cyfleoedd i golegau eraill weithio ar brosiectau tebyg.

‘Haeddu mynediad at addysg o ansawdd uchel’

“Mae pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu mynediad at addysg o ansawdd uchel,” meddai Jeremy Miles.

“Rwyf am sicrhau bod pob dysgwr yn gallu gwireddu ei botensial.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn creu gwahaniaeth go iawn i bobol ifanc ac yn cynyddu’r cyfleoedd a’r opsiynau sydd ar gael iddynt yn eu coleg lleol.”

Chris Denham yw Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol ColegauCymru.

“Mae ColegauCymru o’r farn y dylai pob person ifanc gael mynediad at addysg bellach a hyfforddiant o ansawdd uchel ac y dylai hyn, pan fo modd, fod ar gael yn eu cymuned eu hunain,” meddai.

“Bydd yr ymrwymiad diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau hyn.

“Mae gweithredu system ADY ym maes addysg ôl-16 wedi rhoi ffocws a chyfle i golegau wella profiad addysg bellach i bobol ifanc.

“Mae pob un o’r 13 o golegau yng Nghymru wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd eu darpariaeth yn eu galluogi nhw i gyflawni eu dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol.”