Mali Elwy o Adran Bro Aled yw enillydd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022.

Cafodd enw’r enillydd ei gyhoeddi i neuadd lawn o bobol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth neithiwr (nos Sul, Mawrth 5).

Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn llwyfan bwysig a dylanwadol i sawl gyrfa ddisglair dros y blynyddoedd.

Yn ogystal â chipio’r teitl Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel, mae Mali Elwy hefyd wedi derbyn £4,000 yn wobr am ennill y gystadleuaeth.

Sioned Terry, Gwennan Gibbard, Barri Gwilliam, Bethan Williams–Jones a Huw Garmon gafodd y dasg anodd o feirniadu’r gystadleuaeth, ac roedd canmoliaeth uchel i holl gystadleuwyr y noson.

“Roedd y beirniaid i gyd yn cytuno fod hon yn gystadleuaeth agos iawn wrth i bob un serennu yn eu maes ar y llwyfan heno,” meddai Gwenno Davies, cadeirydd Bwrdd Eisteddfod yr Urdd.

“Yn ddi-os, mae dyfodol disglair o flaen pob un yn eu maes ac edrychwn ymlaen i ddilyn eu llwyddiannau i gyd, bob un.

“Ond heno, roedd un perfformiad wnaeth wirioneddol gydio a chyffwrdd ym mhob un o’r beirniaid.

“Ar ran yr Urdd a’r panel beirniadu, hoffwn longyfarch Mali Elwy ar ennill Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022.”

Y gystadleuaeth

Y chwe chystadleuydd oedd yn cystadlu am deitl Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel heno oedd Fflur Davies (Cylch Arfon), Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain), Ioan Williams (Adran Bro Taf), Mali Elwy (Adran Bro Aled), Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi) a Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi).

Cafodd y chwech eu dewis gan banel o feirniaid yn seiliedig ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Ym mis Ionawr fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth, trefnodd yr Urdd ddosbarthiadau meistr unigol a phenodi mentor i’r chwe chystadleuydd.

Seren y West End Steffan Harri fu’n cynnal dosbarth meistr Fflur Davies, y pianydd talentog Iwan Llywelyn Jones fu’n helpu Gwenno Morgan, a’r dawnsiwr Osian Meilir fu’n cydweithio efo Ioan Williams.

Yr actor Ffion Dafis fu’n rhannu ei phrofiad â Mali Elwy, meistr y trombôn Dafydd Thomas fu’n helpu’r cerddor Rhydian Tiddy, a rhannodd Rhian Lois cyn-enillydd y gystadleuaeth yn 2008, ei chyngor hefo Owain Rowlands.

Yn ogystal, derbyniodd y chwech sesiynau ymarfer gyda Stifyn Parri a’r Gyfarwyddwraig Angharad Lee i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.

Bydd rhaglen uchafbwyntiau Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn cael ei ddarlledu nos Sul, Mawrth 12 am 8yh ar S4C.