Mae enillydd Cân i Gymru 2023 yn dweud ei fod e “wedi gwireddu breuddwyd” ar ôl 17 mlynedd o gystadlu.

Mae Alistair James yn wyneb ac yn llais cyfarwydd yn y byd Cymraeg, ac mae wedi perfformio ar lwyfan Cân i Gymru ddwywaith o’r blaen.

Ond dyma’r tro cyntaf iddo gyrraedd y rownd derfynol fel cyfansoddwr yn unig.

Cafodd ei gân Ladinaidd ‘Patagonia’ ei pherfformio ar y noson gan Dylan Morris.

Enillodd y cyfansoddwr o Lanfairfechan y tlws, yn ogystal â gwobr ariannol o £5,000.

‘Cân i Mam’ gan Huw Owen ddaeth yn ail i ennill £2,000 a ‘Cysgu’ gan Alun Evans (Alun Tan Lan) oedd yn drydydd, gan ennill £1,000.

 

‘Fyswn i ddim yn gallu bod yn hapusach’

Dywed Alistair James fod ennill y gystadleuaeth eleni’n “deimlad hollol, hollol ryfeddol”, a “fatha breuddwyd”.

“Fel cyfansoddwr Cymraeg sydd wedi bod yn trio Cân i Gymru ers 17 o flynyddoedd, mae o fel fy mod i wedi gwireddu breuddwyd,” meddai wrth golwg360.

“Fyswn i ddim yn gallu bod yn hapusach, a fel dw i’n dweud, ‘Tri chynnig i Gymro’.

“Dw i wedi cael yr anrhydedd o berfformio ar lwyfan Cân i Gymru ddwywaith o’r blaen, felly roeddwn i’n meddwl fysa fo’n neis jest cael gweld pethau o’r ochr arall.

“Dw i wedi meddwl llawer gwaith am ennill Cân i Gymru, a beth fysa fo’n golygu, ond doeddwn i ddim yn disgwyl yr ymateb.

“Mae’r ffôn wedi bod yn boeth, ac mae cymaint o gyfarchion wedi dod i mewn, a dw i wedi gwneud sawl cyfweliad dros y diwrnodau dwytha’.

“Mae pobol dw i’n eu hedmygu wedi gyrru negeseuon i mi, cyn-enillwyr Cân i Gymru wedi cysylltu…”

Canwr CÔR-ONA

Ac yntau’n cyfansoddi’n unig eleni, fe drosglwyddodd y cyfrifoldeb o berfformio’r gân i Dylan Morris, canwr o Bwllheli ddaeth i amlygrwydd yn ystod y cyfnod clo Covid-19 fel aelod o’r grŵp Facebook CÔR-ONA oedd yn postio fideos ohono’i hun yn canu gan ddilyn themâu rheolaidd oedd yn cael eu gosod i’r grŵp.

“Roedd Dylan Morris wastad yn apelio i fi fel canwr, a’i stori hefyd, nid jest ei allu fel canwr, ond ei stori o ddyddiau CÔR-ONA,” meddai Alistair James wedyn.

“Ac mae o wedi cyfadde’, roedd o’n swil cyn iddo fo ddechrau rhoi ei fideos i fyny ar CÔR-ONA, ond wedi datblygu’n un o’r sêr mwyaf, am wn i, yn y Gymraeg.

“I gael o i gytuno i ganu ‘Patagonia’, roedd hynna’n beth mor, mor arbennig i fi.

“Ac ro’n i jest yn teimlo bod ei stori yn haeddu ymddangosiad ar lwyfan Cân i Gymru.”

Steil newydd o ganu

Fel un sydd wedi canu gan ddefnyddio sawl dull gwahanol yn y gorffennol – o faledi i werin i ganu gwlad – roedd y cyfansoddwr, sy’n gyflwynydd ar Capital Radio, yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth hollol wahanol y tro hwn.

“Dw i wedi sgwennu tair gwahanol fersiwn o’r gân, mae’n siŵr, efo rhai geiriau oedd ddim cweit yn ffitio,” meddai.

“Roedd gynna’i felodi yn gyntaf ac, a dweud y gwir, roedd hi’n hap a damwain ac yn lwcus iawn fod y geiriau’n ffitio mewn i’r alaw, yn fwy na sgwennu alaw rownd y geiriau.

“Roedd gynna’i y rhythm, a’r ffaith fod ‘Fictoria’ yn odli hefo ‘Patagonia’, ac yn ffitio gan mai Fictoria oedd Brenhines Lloegr ar y pryd – a dyna, wrth gwrs, ran o’r bygythiad.

“Ac, wrth gwrs, ‘Mimosa’ yn air arall yn gorffen efo ‘a’, fel ‘Patagonia’ a ‘De America’, felly roedd y geiriau jest rywsut yn gweithio.

“Bob elfen bwysig o’r hanes, roedd o’n ffitio i’r alaw ac ro’n i’n lwcus iawn.”

Thema addas i’r byd cerddoriaeth Ladinaidd

Ac roedd thema’r gân yn benthyg ei hun i ddull Lladinaidd hefyd, ac yn symud y cyfansoddwr i gyfeiriad ychydig yn wahanol i’r arfer.

“Ro’n i isio trio rhywbeth lle dw i wastad wedi bod wrth fy modd â cherddoriaeth ryngwladol, yn enwedig o Dde America,” meddai.

“Felly mi es i lawr y lôn yna, a ges i’r bît, yr hook ‘Patagonia’, cyn cael y gair ‘Patagonia’ a dweud y gwir.

“Ro’n i jest efo’r nodau yna yn eu lle ac wedyn ddôth y gair ‘Patagonia’ i fi, ac o fynna wrth gwrs mae stori Patagonia mor ddiddorol a phwysig i ni yma yng Nghymru, felly roedd hi’n hawdd iawn wedyn sgwennu’r geiriau.

“Ond mi es i ’nôl sawl gwaith a newid y geiriau wrth i fi ddatgelu mwy o stori’r Mimosa.”

Yn y llyfrgell leol ddaeth e o hyd i’r wybodaeth oedd ei hangen arno i ffurfio’r stori ar gyfer y gân, ac mae’n dweud iddo ddysgu cryn dipyn mwy am yr hanes o wneud hynny.

“Do’n i ddim yn gwybod llawer, ond yn gwybod fod yna gymuned oedd yn siarad Cymraeg ym Mhatagonia, ac yn dal yn bodoli er nad oes yna gymaint ohonyn nhw,” meddai.

“Roedd o’n ddiddorol iawn gwneud yr ymchwil yna, i ffeindio allan pam oedd pobol wedi mynd draw i ochr arall y byd, oedd ar y pryd fel symud i blaned wahanol.

“Oherwydd, roedd o’n annhebygol iawn fysen nhw’n gweld Cymru eto, a fysen nhw ddim yn gweld eu teulu a’u ffrindiau nhw eto.

“Ond ar y pryd, roedd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yng Nghymru dan fygythiad.

“Dyma adeg y ‘Welsh Not’ ar y pryd, felly roedden nhw’n ei gweld hi fel ffordd o allu parhau i fyw trwy gyfrwng y Gymraeg, heb y bygythiad yna o dros y ffin, o Loegr.”

Cydnabod y cynhyrchydd

Wrth siarad ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar noson y gystadleuaeth, fe gyflwynodd Alistair James y wobr i’w gynhyrchydd Russ Hayes.

“Mae’n ddigon syml, fyswn i ddim yma heb Russ Hayes,” meddai wrth golwg360 wedyn.

“Mae’n gynhyrchydd mor, mor dalentog a fo sydd wedi cynhyrchu stwff fi ers dros ddeng mlynedd.

“Yn anffodus, mae o wedi bod yn sâl iawn dros y flwyddyn ddwytha’.

“Cafodd o waedlif ar yr ymennydd fis Ebrill ac yn anffodus, ers hynny, dydi o heb weithio yn y stiwdio.

“Ond fe wnaeth o ddechrau’r broses.

“Fo wnaeth recordio’r ‘demo’ efo’r offerynnau i gyd – offerynnau o Dde America, y gitârs latina a’r accordions a’r offer taro a phob dim – i wneud y sŵn yna mor, mor authentic.

“Fyswn i ddim wedi gallu’i wneud o hebddo fo, felly roedd hi’n fraint cael cyflwyno’r wobr iddo fo ar ôl i mi ennill.”

Dyfodol ‘Patagonia’

A hithau’n Drac yr Wythnos ar Radio Cymru yr wythnos hon, a’r cyfle ar y gorwel i Alistair James a Dylan Morris deithio i’r Ŵyl Ban Geltaidd, pa mor bwysig yw’r holl gydnabyddiaeth, yn ôl Alistair James?

“Mae Trac yr Wythnos ar Radio Cymru yn beth hynod, hynod bwysig oherwydd, wrth gwrs, does yna ddim llawer o lefydd i ni fel cyfansoddwyr a chantorion Cymraeg roi ein stwff allan i’r byd, a Radio Cymru yw’r prif le,” meddai.

“A hefyd, mae yna gymaint o gystadleuaeth ar hyn o bryd, ac mae hwnna’n beth da.

“Mae’n golygu bod y sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn iach, ac mae o’n dal i fynd ac mor gryf ag erioed.

“Mae yna stwff newydd yn cael ei ryddhau bob wythnos, felly i ddod i frig hynny a chael eich cysidro ar gyfer Trac yr Wythnos ar Radio Cymru, mae hwnna’n anrhydedd yn ei hun.

“Wrth gwrs, bydd cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd, ac mae hwnna’n rywbeth arbennig iawn, a dw i’n methu aros i wneud hynny a mynd draw gyda Dylan i berfformio’r gân.

“Ond heblaw am hynny, dw i jest am gymryd pob un dydd fel mae’n dod, a dw i ddim yn meddwl wna i droi unrhyw gyfle i lawr!”

Fersiwn Alistair James o’r gân?

A ddaw cyfle, felly, i’r cyfansoddwr droi’n ganwr ar y gân maes o law?

“Mae yna fersiwn arall yn bodoli’n barod, sef y ‘demo’ wnes i ddanfon at banel Cân i Gymru,” meddai.

“Ac mae hwnna, oherwydd talent Russ Hayes y cynhyrchydd, yn barod i fynd ar gyfer y radio a theledu neu beth bynnag.

“Ond dw i’n cysidro’r gân rŵan, oherwydd y canlyniad, fel cân Dylan Morris – a Dylan Morris fydd biau hi am gyfnod go lew fyswn i’n dweud.

“Ond yn sicr, yn y dyfodol, efallai mewn cwpwl o flynyddoedd pan ddaw’r albwm nesa’ rywbryd, wna’i roi fersiwn fi allan i’r byd gael clywed.

“Ond am y tro, yn sicr, cân Dylan Morris yw ‘Patagonia’.