Mae 10 aelod o Lynges America wedi cael eu rhyddhau gan Iran, yn dilyn adroddiadau eu bod wedi’u dal ym moroedd y wlad.
Yn ôl teledu Iran, mae’r 10 morwr wedi cael eu rhyddhau ar ôl i’r awdurdodau benderfynu nad oedden nhw wedi mynd i foroedd y wlad yn bwrpasol.
Roedd y naw dyn ac un ddynes yn cael eu cadw mewn safle ar Ynys Farsi yng Ngheufor Persia ar ôl cael eu dal ddydd Mawrth.
Mae’n debyg eu bod nhw wedi bod yn cynnal ymarfer pan wnaeth nam technegol achosi i’w cwch fynd i foroedd Iran.
Nid yw Llynges America wedi gwneud sylw na chadarnhau bod y 10 wedi’u rhyddhau eto.
Mae’r ddwy wlad – Iran ac America, wedi bod mewn trafodaethau dros ryddhau’r milwyr.