Mae diogelwch Ewrop a’r byd yn dibynnu ar beidio â gadael i Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, ennill y rhyfel yn Wcráin, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Daw sylwadau Jane Dodds flwyddyn union ers yr ymosodiad cyntaf ar y wlad, wrth iddi ddatgan cefnogaeth Cymru i Wcráin ac Wcreiniaid.

“Flwyddyn yn ôl i heddiw, lansiodd Rwsia ymosodiad treisgar ar gymydog heddychlon,” meddai.

“Mae’r gwrthdaro ddilynodd wedi arwain at filoedd o farwolaethau diangen a phoen eithriadol i deuluoedd ledled Wcráin.

“Nid gwrthdaro am Wcráin yn unig ydy hwn, ond am oroesiad y drefn ryngwladol ryddfrydol lle mae democratiaeth, hawliau dynol ac ymreolaeth yn hollbwysig.

“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n parhau i alw’n ddigamsyniol ar i Wcráin dderbyn yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, am gynyddu’r sancsiynau ar Rwsia i’r graddau mwyaf, ac i’r holl Wcreiniaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro ac sydd angen cartref i gael croeso cynnes yng Nghymru.

“All Putin ddim cael ennill y gwrthdaro hwn, mae diogelwch ehangach Ewrop a’r byd yn dibynnu ar hynny.”