Mae Cymdeithas y Cymod yn parhau i alw am gymod a heddwch hirdymor yn Wcráin, flwyddyn union ers yr ymosodiad ar y wlad gan Rwsia arweiniodd at ddechrau’r rhyfel rhwng y ddwy wlad.

Yn ôl y gymdeithas, mae’r dinistr yn llun rhy gyfarwydd a dydy’r sefyllfa heb newid a does dim cadoediad flwyddyn yn ddiweddarach.

Fydd hanes ddim yn edrych yn garedig ar y penderfyniad wnaeth Putin wrth ymosod ar Wcráin na’i arlywyddiaeth yn gyffredinol, meddai’r gymdeithas.

Mae’r gwrthdaro wedi anafu neu ladd 180,000 o filwyr Rwsiaidd a 100,000 o filwyr Wcráin, a 40,000 o bobol ddiniwed.

Mae’r drafodaeth dros goblygiaidau economaidd y rhyfel hon, gydag Wcráin bellach yn ddibynnol ar gymorth dyngarol rhyngwladol, ac ar ôl pwysau sancsyniau mae economi Rwsia wedi newid fod yn Economi rhyfelgar.

Yn nhermau cymorth milwrol, mae’r Deyrnas Unedig wedi cyflenwi £2.3bn o gymorth milwrol i Wcráin ers dechrau’r rhyfel, gyda gwledydd y gorllewin yn parhau i fuddsoddi a chefnogi Wcráin trwy gefnogaeth a gwariant milwrol.

Yn wahanol i’r naratif yma, mae nifer o wledydd De America wedi gofyn am heddwch ac wedi gwrthod cynnig cymorth arian, ond yn hytrach chymorth dyngarol, gy”da Luiz Inácio Lula da Silva, Arlywydd Brasil, yn nodi nad oes digon o drafodaeth dros heddwch wedi bod.

“Hanfodol” fod heddwch yn dal i fod yn opsiwn

“Er pa mor anodd yw’r her o heddwch gyda Putin yn parhau i wrthod ystyried Wcráin fel gwladwriaeth, mae’n hanfodol bod heddwch yn parhau i gael ei ystyried fel posibilrwydd a nod yn Wcráin, er budd pobol ddiniwed y wlad,” meddai Rhun ap Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod.

“Gyda miloedd o sifiliaid wedi marw a miloedd mwy wedi gorfod ffoi, mae’n rhaid bod y drafodaeth dros gadoediad yn parhau.

“Ac mae’n rhaid cofio, fel ym mhob rhyfel, mai trwy drafodaeth ddiplomyddol y daw diwedd i’r gwrthdaro gwaedlyd hwn.”

‘Sefyll gyda phobol ddewr Wcráin’

“Mae heddiw’n nodi blwyddyn ers gorchfygiad anghyfreithlon llawn Putin ar Wcráin,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Mae Cymru’n parhau i sefyll gyda phobol ddewr Wcráin yn wyneb ymosodiadau ciaidd parhaus.

“Bydd Cymru’n hafan ddiogel i ffoaduriaid cyhyd ag y bydd angen.”