Mae’r prinder cynnyrch ffres mewn archfarchnadoedd yn gyfle i amlygu pwysigrwydd bwyta’n dymhorol yn ôl arbenigwr bwyd, wrth i rai o archfarchnadoedd mwyaf y Deyrnas Unedig gyflwyno cyfyngiadau i siopwyr ar sawl llysieuyn ffres.

Cyfuniad o dywydd gwael a phroblemau trafnidiaeth yn Affrica ac Ewrop sy’n rhannol gyfrifol am y prinder cynnyrch ffres mewn archfarchnadoedd, medd arbenigwyr yn y maes.

Wrth ymateb i gwestiwn brys yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Therese Coffey, Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fod y prinder yn debygol o barhau rhwng dwy a phedair wythnos.

Ond mae Nerys Howell yn teimlo bod hyn yn gyfle i archwilio bwyta’n dymhorol a’i fuddion i’r corff a’r amgylchedd.

Wedi “dod yn gyfarwydd â” bwyta bwydydd tu allan i’w tymor

“Yn bendant, er mwyn yr amgylchedd, dylen ni fod yn bwyta’n fwy gwyrdd trwy fwyta bwydydd sydd yn eu tymor,” meddai Nerys Howel, sy’n arbenigwr bwyd ac yn awdur y gyfrol Bwyd Cymru yn ei Dymor.

“Mae bwyta bwyd lleol o fewn ei dymor yn gwneud synnwyr ym mhob ffordd.

“Mae bwydydd yn eu tymor yn amlwg yn well ansawdd, maen nhw’n rhatach, ac maen nhw’n well i ni achos mae mwy o faeth ynddyn nhw na bwydydd sydd wedi cael eu hedfan o ochr arall y byd.

“Yn anffodus, rydyn ni erbyn hyn wedi dod yn gyfarwydd â bwyta mefus efallai ym mis Ionawr, a rheiny o Cenia, er bod dim gymaint o flas iddyn nhw.

“Ond rydyn ni’n gyfarwydd erbyn hyn â chael dewis eang o lysiau a ffrwythau, felly mae cyfyngu hwnna yn bach o sioc i’r system, fi’n meddwl.

“Ges i fy magu ar fferm y teulu, felly roedd e’n peth greddfol yn naturiol ein bod ni’n bwyta bwydydd roedden ni’n eu tyfu o fewn tymor, ac mae’r bwydydd yna o ansawdd arbennig.

“Felly, i fi, mae’n ddieithr i raddau ein bod ni’n bwyta bwydydd o wahanol wledydd allan o’u tymor.

“Yn y bôn, byddai e’n ddelfrydol ein bod ni’n gallu tyfu mwy o lysiau a ffrwythau yn y wlad hyn ond achos ein tywydd ni, wrth gwrs, dyw hwnna ddim yn bosib.

“Mae’r gwledydd poeth yn lwcus eu bod nhw’n gallu bwyta’r bwydydd hyn trwy’r flwyddyn.

“Ond mae yna lysiau rydyn ni’n eu tyfu yn ystod yr amser hyn o’r flwyddyn fel llysiau gwraidd – tatws, moron, panas, swêds ac yn y blaen – efallai dydyn nhw ddim mor ffasiynol â thomatos a chiwcymbr a letys ond mae yna ffordd o’u gwneud nhw ychydig bach yn fwy diddorol.

“Efallai ddylen ni fod yn canolbwyntio mwy ar y rheina ac aros tan fod pethau’n cynhesu i allu bwyta cynnyrch salad sy’n cael eu tyfu’n y wlad hyn.”

Buddion i’r amgylchedd

Un o’r dadleuon amlycaf o blaid bwyta’n dymhorol yw’r buddion sydd i’r amgylchedd.

“Yn amlwg, rydyn ni’n arbed egni wrth arbed y cynnyrch yma rhag gorfod teithio ar draws y byd a pheidio rhyddhau gymaint o allyriadau,” meddai wedyn.

“Mae trafnidiaeth yn lot fwy effeithiol os yw e o fewn ein gwlad ni yn hytrach na bod pethau’n cael eu hanfon ar gwch neu ar awyren i’n gwlad.

“Hefyd, dydyn ni yng Nghymru ddim mor ddibynnol ar ddŵr ag mae gwledydd yn Affrica, a Sbaen, a dyna ble mae’r prinder wedi bod, achos bod yna ddiffyg glaw wedi bod.

“Felly mae yna fwy o bwysau yn y gwledydd hyn o gymharu â Chymru, ble ry’n ni’n cael digon o law, felly does yna ddim gymaint o ofyn ar y dŵr yma.”

Cyfrol i dynnu dŵr i’r dannedd

Alun Rhys Chivers

Y gogyddes sy’n gweld y gwerth mewn bwyd lleol tymhorol