Mae Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi canmol y datblygiadau diweddaraf ym maes technolegau iaith, gan ddweud bod gwaith yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor ac eraill yn “trawsnewid dyfodol y Gymraeg”.
Daw sylwadau Jeremy Miles wrth iddo annerch cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor heddiw (dydd Gwener, Chwefror 24).
Ffocws y gynhadledd Technoleg a’r Gymraeg gan yr Uned Technolegau Iaith yw defnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol.
Y nod yw dod â’r byd academaidd, byd busnes a gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd gydag arddangosfa o feddalwedd ac offer technoleg iaith gan gwmnïau bach masnachol o Gymru.
O’r tu hwnt i Gymru, bydd yr Athro William Lamb o Brifysgol Caeredin yn cyflwyno ar dechnolegau iaith Gaeleg yr Alban a’u partneriaeth ddiweddar gyda Phrifysgol Bangor.
Hefyd yn siarad fydd Dr Rodolfo Piskorski o Brifysgol De Cymru a Fernando Pabst Silva o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, sef datblygwyr Gairglo, y fersiwn Gymraeg o’r gêm eiriol boblogaidd Wordle.
Y Trawsgrifiwr
Ymysg y datblygiadau mae’r Trawsgrifiwr, sef rhaglen feddalwedd sy’n trawsgrifio lleferydd Cymraeg yn destun, ac sydd wedi’i datblygu gan yr Uned dan nawdd Llywodraeth Cymru.
“Gyda’n nawdd ni, mae Prifysgol Bangor wedi datblygu trawsgrifiwr Cymraeg sy’n gwrando ar bobol yn siarad Cymraeg ac yn teipio beth maen nhw’n ddweud,” meddai Jeremy Miles.
“Mae’n gallu creu isdeitlau awtomatig i fideos.
“Bydd hyn yn creu ffordd o wybod beth sydd mewn rhaglenni archif a fideos eraill.
“Gobeithio y bydd o ddefnydd mawr i ddarlledwyr.”
Bydd cyflwyniad hefyd gan Einion Gruffydd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar eu prosiect torfoli cyfredol i drawsgrifio archif ffilm a theledu Cymru.
Lleisiau synthetig dwyieithog
Bydd yr Uned Technolegau Iaith hefyd yn cyhoeddi eu bod nhw ar fin rhyddhau lleisiau synthetig dwyieithog.
Bydd y rhain yn cael eu gosod mewn adnoddau fel Macsen, sef meddalwedd cynorthwyydd personol Cymraeg – tebyg i Alexa neu’r Google Assistant.
“Rwy’n hoff o dechnoleg ond nid technoleg er ei mwyn ei hun, technoleg sy’n mynd i helpu siaradwyr Cymraeg mewn Cymru sydd yn ddwyieithog,” meddai Jeremy Miles.
“Bydd hyn yn golygu, er enghraifft, bod person dall sy’n gwrando ar destun Cymraeg yn dal i glywed llais yr un ‘person’ fel petai, pan maen nhw’n darllen erthygl Saesneg.”
Mae’r Athro Delyth Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith “yn falch iawn o gefnogaeth y Gweinidog i’n gwaith”.
“Erbyn hyn, mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru i dechnoleg Gymraeg yn dwyn ffrwyth amlwg, ac mae cwmnïau masnachol yn gallu cynnwys ein hadnoddau yn eu cynnyrch, er budd i economi Cymru ac i ddefnyddwyr y Gymraeg,” meddai.