Fe fydd y darlledwr Gwyddeleg adnabyddus Rónán Mac Aodha Bhuí yn derbyn gwobr arbennig am ei gyfraniad i ddarlledu yn yr iaith.
Bydd y wobr Gradam an Uachtaráin (Gwobr y Llywydd) yn cael ei chyhoeddi yn Conradh na Gaeilge Ard-Fheis y penwythnos hwn, ac yn ôl Conradh na Gaeilge, mae’n “wobr eithriadol i berson eithriadol”.
Mae’r darlledwr yn derbyn triniaeth am ganser ar hyn o bryd, felly fydd e ddim yn bresennol yn y digwyddiad yn Tiobráid Árann (Tipperary) i gael ei anrhydeddu am ei raglen ‘Ciste Tacaíochta Rónáin’.
Caiff y wobr ei rhoi’n flynyddol i aelod o’r gymuned Wyddeleg neu’r Gaeltacht sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i’r iaith Wyddeleg.
Daw Rónán Mac Aodha Bhuí o Gaeltacht Dún na nGall (Donegal), ac mae’n darlledu o bentref na Doirí Beaga (Derrybeg) yn Gaoth Dobhair (Gweedore) ar gyfer RTÉ Raidió na Gaeltachta.
Bu’n flaenllaw mewn nifer o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd yn ymwneud â’r iaith Wyddeleg, gan gynnwys y Cabaret Craiceáilte, ac mae wedi ennill nifer o wobrau am ei gyfraniad i ddarlledu trwy gyfrwng yr iaith.
‘Arloeswr â llais chwyldroadol’
“Roedd pawb yn Conradh na Gaeilge wrth eu boddau pan gytunodd Rónán i dderbyn y wobr hon ar ddechrau’r mis,” meddai Paula Melvin, Llywydd Conradh na Gaeilge.
“Mae’n anodd cyfleu mewn geiriau yr effaith eithriadol mae Rónán wedi’i chael ac yn parhau i’w chael ar yr iaith Wyddeleg a chymunedau’r Gaeltacht.
“Mae’n arloeswr cymunedol a Gwyddeleg, yn llais chwyldroadol sydd wedi ysbrydoli miloedd dros y degawdau diwethaf.
“Mae Rónán wedi sefyll ysgwydd yn ysgwydd ag ymgyrchoedd tros hawliau cenedlaethol ac ieithyddol.
“Chwaraeodd e ran ganolog fel ‘Fear an Tí’ (Dyn y Tŷ) ar gyfer rali Dearg le Fearg (Yn Goch â Dicter) yn Nulyn yn 2014, ac fe fu’n flaenllaw wrth gefnogi ymgyrch Dream Dearg tros hawliau ieithyddol yn y gogledd.
“Mae Rónán hefyd wedi ein hysbrydoli ninnau dro ar ôl tro ar Raidió na Gaeltachta, ac yn ei Cabaret Craiceáilte chwedlonol, Féile Craiceáilte a digwyddiadau a gwyliau eraill dros y blynyddoedd.
“Wrth gwrs, rydym wedi clywed am frwydr barhaus Rónán â chanser, a’r dangosiad cymunedol digynsail o solidariaeth a haelioni tuag at Rónán.
“Mae Rónán wedi sefyll gyda ni erioed, ac nawr byddwn yn sefyll gydag yntau.
“Mae hon yn wobr eithriadol i berson eithriadol.
“Mae gennym ni gyfle nawr drwy’r Ard-Fheis i hybu’r ymgyrch barhaus i godi arian tuag at driniaeth Rónán, Ciste Tacaíochta Rónáin, ac wrth gwrs, bydd ein meddyliau gyda Rónán a’i deulu yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.”