Gallai Puerto Rico gymryd cam arall tuag at refferendwm i benderfynu a ddylai fod yn wlad annibynnol, yn un o daleithiau America neu’n destun trefniant arall.
Fe fydd gwleidyddion yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr yn yr Unol Daleithiau yn pleidleisio heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 15) ar fil sy’n amlinellu’r broses.
Cafodd Deddf Statws Puerto Rico ei phasio ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 14), gan arwain y ffordd ar gyfer pleidlais Tŷ llawn.
Mae’r ddeddfwriaeth yn amlinellu’r broses a’r opsiynau fyddai ar gael i bleidleiswyr.
Ymhlith yr opsiynau mae perthynas rydd â’r Unol Daleithiau, sydd eisoes ar waith ym Micronesia, Palau ac Ynysoedd Marshall.
Mae gan Puerto Rico boblogaeth o ryw 3.3m o bobol, ond mae lefelau uchel o dlodi.
Daeth y wlad yn un o diriogaethau’r Unol Daleithiau yn 1898, ond mae ymgyrchwyr wedi bod yn frwd dros ymreolaeth ers degawdau.
Fe fu chwe refferendwm ar y pwnc ers y 1960au, ond doedden nhw ddim yn rhai cyfreithiol, a dim ond Cyngres yr Unol Daleithiau all roi statws gwladwriaeth iddi.
Er bod trigolion yr ynys yn Americanwyr, does ganddyn nhw ddim hawliau pleidleisio yn y Gyngres nac yn etholiadau arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Dydyn nhw ddim yn talu trethi ffederal ar incwm ar yr ynys, a dydyn nhw ddim yn gymwys ar gyfer rhai rhaglenni ffederal.
Pe bai’r bil yn cael ei basio, byddai angen 60 o bleidleisiau yn y Senedd, a llofnod Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, arno cyn y gall ddod yn gyfraith.